Cyngor Sir Ynys Môn

Safleoedd ac eiddo Caergybi


Mae cyfanswm o 10 o unedau busnes newydd wedi cael eu datblygu ar Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi.

Mae ail ddatblygiad y cyn safle heliport yn darparu cyfanswm o 10 uned gyda dros 2,800m2 o le ar gyfer swyddfeydd, mannau diwydiannol ysgafn a lle storio er mwyn galluogi busnesau i dyfu a chefnogi’r sector ynni carbon isel.

Roedd y prosiect yn rhan o ymdrechion Cyngor Sir Ynys Môn i gefnogi datblygiadau busnes a chreu swyddi ar yr Ynys.

Cyflwynodd Swyddogion Datblygu Economaidd Ynys Môn gais llwyddiannus am £2.3m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru yn ogystal â chytuno ar gyd-fenter arloesol gwerth £1.6m gyda Llywodraeth Cymru – y tro cyntaf i hynny ddigwydd ar Ynys Môn. Mae’r prosiect yn rhan o gynllun ehangach i ddatblygu Parth Menter Ynys Môn a’r Rhaglen Ynys Ynni.

Cwblhawyd y datblygiad ddiwedd 2020 ac mae tenantiaid newydd bellach wedi meddiannu'r unedau.

Cam dau

Disgwylir i ail gam y datblygiad ddechrau yn ystod 2022 a fydd yn darparu 7 uned fusnes ychwanegol ar stad ddiwydiannol Penrhos.

Mae Wynne Construction wedi’u penodi ar y contract i ddatblygu’r unedau a disgwylir eu cwblhau erbyn gaeaf 2022.

I gofnodi’ch diddordeb mewn cyfleoedd prydlesu, cysylltwch â ymholiadaueiddo@ynysmon.gov.uk

Fel arall, gwelwch ein tudalennau eiddo i'w gosod neu eiddo ar werth ar gyfer argaeledd presennol. 

Cam tri

Bydd y trydydd cam o ddatblygu yn y stad ddiwydiannol yn dechrau ym mis Chwefror 2023 gyda dyddiad cwblhau ymarferol i’w ddisgwyl yn ystod haf 2023.

Bydd cam tri yn darparu 919m2 yn ychwanegol o le mewnol ar draws y chwe uned fusnes. Defnyddiodd Camau dau a thri £5.4 miliwn o ERDF a chyllid cyfatebol er mwyn darparu’r prosiectau. 

Logo