Cyngor Sir Ynys Môn

Safleoedd ac eiddo Amlwch


Trosolwg

Mae Prosiect Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Môn yn cynnwys datblygu unedau busnes Amlwch ac adnewyddu Adeilad y Derfynfa Forol, gan wario cyfanswm o £10.4m ar y gwaith. Gyda’i gilydd byddant yn darparu 2,300m2 (tua 25,000tr2) o arwynebedd llawr modern ar gyfer busnesau, fydd yn creu 60 (gros) o swyddi uniongyrchol cyfystyr ag amser llawn a 50 (gros) o swyddi anuniongyrchol cyfystyr ag amser llawn.

Penodwyd y contractwyr o Ynys Môn, OBR, i gyflawni’r gwaith ar y cynlluniau trwy Bartneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru. Dechreuodd y gwaith yn haf 2026 a rhagwelir y bydd wedi’i gwblhau erbyn dechrau 2028.

Unedau Afon Goch (unedau masnach Amlwch)

Gan ddefnyddio arian Bargen Dwf Uchelgais Gogledd Cymru, Cyd-Fenter â Llywodraeth Cymru, arian gan yr Asiantaeth Datgomisiynu Niwclear ac arian gan Gyngor Sir Ynys Môn, byddwn yn adeiladu 10 uned fusnes newydd ar Ystâd Ddiwydiannol Amlwch fydd yn creu oddeutu 1,300m2 (14,000tr2) o arwynebedd llawr i fusnesau.

Bydd creu’r unedau diwydiannol newydd yma’n darparu gofod modern a hyblyg i fusnesau lleol dyfu a ffynnu.

Terfynfa forol

Agorwyd adeilad y derfynfa forol gan Gwmni Olew Shell yn 1976 i gartrefu’r staff a’r offer oedd eu hangen i wasanaethu’r bwi angori yn y môr oedd yn rhan o biblin 79 milltir o hyd oedd yn cludo olew crai o danceri wedi’u hangori ger arfordir Amlwch i burfa olew Stanlow yn Swydd Gaer. Gadawodd Shell yr adeilad yn 1990 pan roddwyd y gorau i ddefnyddio’r biblin.

Mae’r adeilad nodweddiadol mewn lleoliad amlwg yn edrych dros Borth Amlwch ond nid yw bellach yn addas i’r diben. Rydym yn ymgymryd â phrosiect uchelgeisiol i adnewyddu’r adeilad er mwyn creu 540m2 (5,800tr2) o arwynebedd llawr masnachol a swyddfeydd, a bydd ganddo gyfanswm ôl-troed o thua 1000m2 (10,800tr2) yn cynnwys cyfleusterau ategol.

Mae’n cael ei ariannu gan Fargen Dwf Uchelgais Gogledd Cymru, cynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear/Gwasanaethau Adfer Niwclear a Chyngor Sir Ynys Môn. 

""