Cyngor Sir Ynys Môn

Peboc, Llangefni


Mae'r hen Ffatri Cemegol Peboc Eastman (Safle Peboc) wedi'i leoli ar stad ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni ac wedi bod yn dirywio ers i'r safle gau yn 2008.

Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi caffael yr hen safle Peboc gyda’r nod o baratoi’r safle ar gyfer creu man masnachol newydd er mwyn hyrwyddo adfywiad economaidd a chreu swyddi lleol yn ogystal â gwneud y mwyaf o botensial y safle gan ei fod wedi’i leoli o fewn Porthladd Rhydd Ynys Môn.

Bydd gwaith yn cynnwys:

  • dad-ddifwyno
  • clirio’r safle a dymchwel y strwythurau presennol
  • creu mynedfa newydd i’r safle

Llwyddodd swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn i sicrhau cyllid drwy egin gyllid Cyfalaf y Porthladd Rhydd ac Uchelgais Gogledd Cymru.

Bydd gwaith yn dechrau ar y safle yn ystod yr haf 2026 a rhagwelir y bydd yn dod i ben yn y gwanwyn 2028. 


Ambition North Wales logo

Anglesey Freeport logo