Safleoedd ac eiddo
Fel rhan o'i rôl datblygu economaidd, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi bod yn ymwneud ers blynyddoedd lawer â datblygu ystadau diwydiannol ac unedau diwydiannol. Mae Llywodraeth Cymru a datblygwyr preifat hefyd yn gwneud hyn. Felly, mae'r cyngor yn ymwneud â chyflawni prosiectau cyfalaf ar gyfer unedau busnes/diwydiannol ychwanegol a lleiniau â gwasanaeth ar Ynys Môn.
Hysbysebir unedau a lleiniau sydd ar gael ar y wefan hon.
Prosiectau yn y dyfodol
Mae prosiectau cyfalaf safleoedd ac eiddo pellach mewn lleoliadau eraill dan ystyriaeth. Gall y rhain fod yn destun astudiaethau dichonoldeb, ymchwiliadau technegol, a thrafodaethau ynghylch cyllid a pherchnogaeth tir.