Mae Cyngor Sir Ynys Môn bellach yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan bobl, busnesau a sefydliadau a hoffai ddod yn aelodau o Bartneriaeth Cyrchfan Ynys Môn.
Bydd y bartneriaeth yn dod â phobl ynghyd o bob rhan o sectorau twristiaeth yr ynys, lletygarwch, diwylliant, treftadaeth, gweithgareddau awyr agored, busnes a chymunedol i rannu eu gwybodaeth a'u profiadau.
Bydd yn gyfle i drafod y materion sy'n wynebu'r economi ymwelwyr, nodi cyfleoedd a helpu i gefnogi dull cynaliadwy o ddatblygu twristiaeth sydd o fudd i Ynys Môn, ei chymunedau a'i busnesau lleol.
Mae'r cyngor sir yn arbennig o awyddus clywed gan:
- atyniadau ymwelwyr
- darparwyr llety
- busnesau bwyd a diod
- cwmniau lletygarwch
- sefydliadau cymunedol
- busnesau lleol
- trigolion ac eraill sydd â diddordeb mewn hyrwyddo Ynys Môn fel cyrchfan
Bydd yr aelodau'n cael eu dewis er mwyn sicrhau cydbwysedd da o sectorau a diddordebau o bob rhan o'r ynys.
Disgwylir i'r Bartneriaeth gyfarfod ddwywaith y flwyddyn, a bydd aelodau hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn grwpiau prosiect neu weithgorau pan yn briodol.
Ffurflen datganiadau o ddiddordeb
Bydd y ffurflen mynegi diddordeb yn cau ddydd Mawrth 1 Rhagfyr 2026.
Caiff unrhyw un fyddai’n hoffai cael rhagor o wybodaeth neu gael sgwrs anffurfiol am Bartneriaeth Cyrchfan Ynys Môn gysylltu â'r Tîm Twristiaeth drwy e-bostio twristiaeth@ynysmon.llyw.cymru neu ffonio 07971 951 903.
Ewch i'r ffurflen mynegi diddordeb