Cyngor Sir Ynys Môn

Ynglŷn â Canolfan Busnes Môn


Mae Canolfan Fusnes Ynys Môn yn lleoliad modern, hygyrch sy’n ceisio darparu amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau er mwyn gallu diwallu eich anghenion busnes, yn cynnwys nifer o ystafelloedd cyfarfod hyblyg a swyddfeydd.  

Wedi’i hymestyn yn ddiweddar, mae’r Ganolfan Fusnes yma i gefnogi busnesau lleol i allu tyfu a ffynnu. Gallwn ddarparu amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau gydag amgylchedd gwaith o safon uchel a TGCh ar brisiau cystadleuol.

Archebu ystafelloedd cyfarfod

Mae ystafelloedd cyfarfod ar gael i'w llogi ar gyfer rhwng 6 i 65 o bobl.

Cysylltwch â datecon@ynysmon.llyw.cymru neu ffoniwch 01248 752 435 / 752 431

Gwefru ceir trydan

Pam ddim gwefru eich cerbyd yn un o’r 10 man gwefru sydd gennym ar gael.

Cysylltiadau cymorth busnes:

Ffioedd a thaliadau

Gweler dogfen ffioedd a thaliadau'r cyngor am gost llogi ystafelloedd cyfarfod. Yn y ddogfen ffioedd a thaliadau edrychwch o dan Ganolfan Fusnes Ynys Môn.