Cyngor Sir Ynys Môn

Ynglŷn â Canolfan Fusnes Môn


Mae Canolfan Fusnes Môn yn lleoliad modern, hygyrch sy’n ceisio darparu amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau er mwyn gallu diwallu eich anghenion busnes, yn cynnwys nifer o ystafelloedd cyfarfod hyblyg a swyddfeydd.  

Wedi’i hymestyn yn ddiweddar, mae Canolfan Fusnes Môn yma i gefnogi busnesau lleol i allu tyfu a ffynnu. Gallwn ddarparu amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau gydag amgylchedd gwaith o safon uchel a TGCh ar brisiau cystadleuol.

Lleoliad Canolfan Fusnes Môn

Mae Canolfan Fusnes Môn wedi ei leoli ym Mharc Diwydiannol Bryn Cefni ar gyrion tref Llangefni.

Wrth deithio i’r Ynys ar yr A55 dilynwch yr arwyddion am Gaergybi ac arhoswch ar y lôn fawr nes eich bod yn cyrraedd y tro am Langefni a’r B5114.

Wrth agosáu at Langefni ar y B5114, ar ffiniau’r dref, cymwerwch yr ail troad ar yr y gylchfan, i’r dde am y Stad Diwydiannol. Fel yr ydych yn mynd i lawr yr allt tuag at cylchfan arall, trowch i’r chwith yn y gylchfan ac ewch yn eich blaen am hanner milltir hyd nes y byddwch yn cyrraedd cylchfan fechan. Mae gennych ddewis o ddau faes parcio am ddim. Ewch i fyny’r allt ac yna trowch i’r dde.

O’r cloc yng nghanol y dref: ewch drwy’r maes parcio ger neuadd y dref. Ewch i’r chwith ar draws y bont fechan dros Afon Cefni.

Trowch i’r dde a cherddwch ar hyd y llwybr i gyfeiriad swyddfeydd y cyngor. Dilynwch y llwybr ar yr ochr chwith i’r adeilad hyd at y maes parcio uwch.

Cerddwch allan o’r maes parcio ac yna ewch yn syth i’r  gyffordd (bydd ATS Tyres yn syth o’ch blaen). Trowch i’r dde a chroeswch y lôn.

Cerddwch ymlaen i’r gylchfan fechan a chymerwch y troad i’r chwith. Croeswch y ffordd a cherddwch i fyny’r allt (garej Peugeot i’r chwith). Mae Bryn Cefni ar y dde.  Gweler y map .pdf amgaeedig

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r dderbynfa.

Mae sawl arhosfan bws ar y stad ddiwydiannol.

Dilynwch y linc isod ar gyfer ein hamserlenni bws. Bydd rhaid i chwi gerdded am o gwmpas pum munud er mwyn cyrraedd Bryn Cefni.

Mae yna dwy lefel i'r adeilad. Lifft ar gael yn yr adeilad.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda y Canolfan Fusnes.

Oriau agor

Mae Canolfan Fusnes Môn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm. Mae ar gau ar wyliau banc.

Archebu ystafelloedd cyfarfod

Mae ystafelloedd cyfarfod ar gael i'w llogi ar gyfer rhwng 6 i 60 o bobl.

Gweld yr ystafelloedd cyfarfod sydd ar gael a’u maint.

Cysylltwch â datecondev@ynysmon.llyw.cymru neu ffoniwch 01248 752 435

Gwefru ceir trydan

Pam ddim gwefru eich cerbyd yn un o’r 10 man gwefru sydd gennym ar gael.