Mae Canolfan Gwasanaethau Busnes Ynys Môn wedi ei leoli ym Mharc Diwydiannol Bryn Cefni ar gyrion tref Llangefni.
Mae’r Ganolfan yn darparu amryw o wasanaethau economaidd a busnes – beth am alw heibio i ddarganfod y manteision i’ch busnes neu eich menter arfaethedig?
Mae’r Ganolfan fodern yma’n cynnwys tair adain wahanol a derbynfa ganolog. Yn ychwanegol i’r ardal sydd wedi ei neilltuo i Adain Datblygu Economaidd y Cyngor Sir, ceir hefyd swyddfeydd a ddefnyddir gan y rhaglen Ynys Ynni a'r Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, yn ogystal â chyfres o ystafelloedd cyfarfod o faint amrywiol sydd ar gael i’r sectorau cyhoeddus a phreifat.
Mae’r Ganolfan yn darparu ffocws canolog i weithgareddau lleol sy’n cefnogi’r economi a chynorthwyo busnesau i ehangu a thyfu. Mae’r datblygiad yma’n rhan o ymrwymiad tymor hir y Cyngor Sir tuag at sicrhau twf economaidd.
Galwch i mewn - efallai byddwch wedi synnu gyda’r gwasanaethau sydd o fewn eich cyrraedd!
Wrth deithio i’r Ynys ar yr A55 dilynwch yr arwyddion am Gaergybi ac arhoswch ar y lôn fawr nes eich bod yn cyrraedd y tro am Langefni a’r B5114.
Wrth agosáu at Langefni ar y B5114, ar ffiniau’r dref, cymwerwch yr ail troad ar yr y gylchfan, i’r dde am y Stad Diwydiannol. Fel yr ydych yn mynd i lawr yr allt tuag at cylchfan arall, trowch i’r chwith yn y gylchfan ac ewch yn eich blaen am hanner milltir hyd nes y byddwch yn cyrraedd cylchfan fechan. Mae gennych ddewis o ddau faes parcio am ddim. Ewch i fyny’r allt ac yna trowch i’r dde.
O’r cloc yng nghanol y dref: ewch drwy’r maes parcio ger neuadd y dref. Ewch i’r chwith ar draws y bont fechan dros Afon Cefni.
Trowch i’r dde a cherddwch ar hyd y llwybr i gyfeiriad swyddfeydd y cyngor. Dilynwch y llwybr ar yr ochr chwith i’r adeilad hyd at y maes parcio uwch.
Cerddwch allan o’r maes parcio ac yna ewch yn syth i’r gyffordd (bydd ATS Tyres yn syth o’ch blaen). Trowch i’r dde a chroeswch y lôn.
Cerddwch ymlaen i’r gylchfan fechan a chymerwch y troad i’r chwith. Croeswch y ffordd a cherddwch i fyny’r allt (garej Peugeot i’r chwith). Mae Bryn Cefni ar y dde. Gweler y map .pdf amgaeedig
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r dderbynfa.
Mae sawl arhosfan bws ar y stad ddiwydiannol.
Dilynwch y linc isod ar gyfer ein hamserlenni bws. Bydd rhaid i chwi gerdded am o gwmpas pum munud er mwyn cyrraedd Bryn Cefni.
Mae yna dwy lefel i'r adeilad. Lifft ar gael yn yr adeilad.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda y Canolfan Fusnes.