Sicrhaodd a buddsoddodd Cyngor Sir Ynys Môn £2.9 miliwn gan y gronfa datblygu ranbarthol Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, trwy Croeso Cymru, i gyflwyno pecyn o gynlluniau gwella twristiaeth yn ystod 2019 i 2023.
Mae'r cynlluniau wedi gwella apêl yr ardal i ymwelwyr rhyngwladol, gan gynnwys y nifer cynyddol o deithwyr llongau fordaith.
Rhestr o gynlluniau wedi'u cwblhau
Mae’r rhestr o gynlluniau a gyflwynwyd yn cynnwys:
- gwell arwyddion i ymwelwyr a chyfeirbwyntiau
- mynediad tŵr y Gaer Rufeinig a llwyfan gwylio
- adnewyddu cyfleusterau cyhoeddus i ymwelwyr yn Sgwâr Swifft
- canolfan ymwelwyr newydd ym Mharc Gwledig Morglawdd Caergybi
- rhoi arian cyfatebol ar gyfer nifer o gynlluniau gwella Partneriaeth Tirwedd Ynys Gybi
- clirio adeiladau blêr glan yr harbwr
- delweddau yn y derfynell fferi i hyrwyddo Gogledd Cymru
- teledu cylch cyfyng ychwanegol
- clirio llystyfiant sydd wedi gordyfu yn eglwys Sant Cybi
- adnewyddu adeilad ciosg yr Ymddiriedolaeth Natur ym Mharc y Morglawdd
Trosolwg o'r prosiectau
Mae'r ddogfen 'Cyflwyniad Llwyddiannau Prosiect Porth Ymwelwyr Ynys Gybi' (dolen yn agor tab newydd) yn rhoi trosolwg ac yn cynnwys delweddau o'r prosiectau a gyflawnwyd.
Canolfan Ymwelwyr Parc y Morglawdd
Mae canolfan ymwelwyr modern wedi cael ei hagor ym Mharc Gwledig y Morglawdd Caergybi sydd wedi ennill gwobrau fel rhan o gynllun Cymru gyfan i greu a gwella cyfleusterau allweddol i ymwelwyr.
Partneriaid
Darparwyd y cynlluniau gan y Tîm Datblygu Economaidd a phartneriaid darparu allanol. Cafodd nifer o'r prosiectau cydrannol eu cyd-ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (NLHF).
![Holy_island_image](/image-library/Business/Regneration/Holy-island-image.jpg)