Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Prosiect
6

Gwarchod ein ffiniau traddodiadol

Crynodeb o'r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn adfer strwythurau ffiniau traddodiadol. Fel y nodwedd tirwedd nodweddiadol amlwg byddwn yn canolbwyntio ar waliau cerrig sych traddodiadol, ond bydd cloddiau a gwrychoedd hefyd yn cael eu hystyried os bydd yr amgylchiadau yn codi.

Partneriaid allweddol

Allbynnau'r prosiect

  1. Medrau o waliau cerrig sych traddodiadol wedi'i hadfer (neu gloddiau / gwrychoedd cyfatebol)
  2. Diwrnodau Gwirfoddoli

Canlyniadau'r prosiect

  1. Adfer strwythurau caeau nodweddiadol traddodiadol
  2. Adfer strwythurau ffiniau traddodiadol amlwg
  3. Galluogi ailgyflwyno arferion pori cynaliadwy

Amcanion y cynllun

  1. Adfer a rheoli cynefinoedd brodorol i gynyddu gwytnwch ac amddiffyn rhag colli bywyd gwyllt
  2. Gwarchod nodweddion allweddol cymeriad treftadaeth y dirwedd

Gweithgareddau

Trwy gydol Haf a Hydref 2022 cynhaliwyd sesiynau hyfforddi traddodiadol Codi Waliau Sych ar Fynydd Twr. Cofnodwyd cyfanswm o 185 o oriau gwirfoddol gan bobl leol ac ymwelwyr â'r ardal yn mynychu'r gweithgareddau codi waliau cerrig. Cafodd y cyfranogwyr gyfle i ddysgu sgil draddodiadol wrth warchod y system caeau Lleiniau unigryw ger Llaingoch.

Oriel lluniau


Prosiectau eraill