Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Prosiect
19

Canolfan Dreftadaeth Ymwelwyr y Morglawdd

Crynodeb o'r prosiect

Datblygu Canolfan Dreftadaeth Ymwelwyr newydd ym Mharc Gwledig y Morglawdd, a fydd yn ganolbwynt i'n cynllun dehongli treftadaeth ledled yr ynys ac yn darparu sylfaen leol i'n tîm staff sydd wedi'i hymgorffori yn y gymuned leol.

Partneriaid allweddol

Allbynnau'r prosiect

  1. Addasu ac ychwanegu estyniad i’r adeilad presennol
  2. Gosod Dehongliad Treftadaeth Amlgyfrwng
  3. Creu swyddfa

Canlyniadau'r prosiect

  1. Cynnydd yn nifer y bobl leol sy’n ymweld a chynnydd yn eu hymwybyddiaeth o dreftadaeth
  2. Hyrwyddo hybiau, safleoedd a gweithgareddau treftadaeth ehangach
  3. Sefydlu atyniad treftadaeth newydd ar gyfer ymwelwyr
  4. Staff y cynllun wedi'i sefydlu yn y gymuned leol

Amcanion y cynllun

  1. Cynyddu ymwybyddiaeth leol o dreftadaeth Ynys Cybi
  2. Ymgysylltu gyda phobl newydd ac unigolion anodd eu cyrraedd
  3. Hyrwyddo cyfleusterau a chyfleoedd Ynys Cybi
  4. Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gadwraeth a rheolaeth treftadaeth
  5. Gwella cyfleusterau i ymwelwyr

Gweithgareddau

Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i ddatblygu Canolfan Ymwelwyr newydd ym Mharc Gwledig y Morglawdd. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i chwblhau bydd yn ganolfan i bobl sy'n ymweld â'r ardal ac yn darparu gwybodaeth am hanes a bywyd gwyllt y Parc yn ogystal â safleoedd eraill o ddiddordeb ar Ynys Cybi. Y gobaith yw y bydd y Ganolfan yn weithredol o Sulgwyn 2023.


Prosiectau eraill