Cyngor Sir Ynys Môn

Mae grantiau ar gael i gefnogi gweithgareddau a digwyddiadau sy’n cefnogi gweledigaeth Partneriaeth Tirwedd Ynys Cybi ac sydd o fudd i’r gymuned leol, yr amgylchedd a threftadaeth.

Caiff grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector ar Ynys Cybi wneud cais am grantiau rhwng £500 a £2,000 i dreialu digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer prosiectau cynaliadwy a hirdymor - gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
  • ymchwil a arweinir gan y gymuned
  • arddangosfeydd a digwyddiadau
  • gwelliannau amgylcheddol a bioamrywiaeth
  • gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau a phrosiectau rhwng cenedlaethol

Mae’r broses ceisiadau grantiau yn gysylltiedig â gweledigaeth Partneriaeth Tirlun Ynys Cybi sydd â’r nod o weld ‘Pobl leol yn cydweithio er mwyn amddiffyn a rheoli treftadaeth gyfoethog ein hynys, cefnogi cymuned sy’n ffynnu a rhoi croeso cynnes i ymwelwyr am genedlaethau i ddod.’

Bydd y grant yn darparu cyllid sbarduno i alluogi grwpiau i ddatblygu eu syniadau gwreiddiol eu hunain. Gallai hyn gynnwys treialu syniad newydd a gwreiddiol, cael cefnogaeth broffesiynol / arbenigedd i ddatblygu cysyniad ymhellach, cynnal digwyddiad ar raddfa fach ayyb.

Bydd yn ofynnol i bob derbynnydd grant:

  • hyrwyddo gweithgareddau ehangach y Cynllun Partneriaeth Tirwedd
  • hyrwyddo a chyfeirio at nodweddion/canolfannau tirwedd treftadaeth allweddol

Bydd yn ofynnol i bawb sy'n derbyn grant hyrwyddo gwerth dwyieithrwydd a'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn eu gweithgareddau. Bydd cefnogaeth ar gael.

Gwneud cais

Mae’r gronfa hon yn cael ei gweinyddu gan Dîm Partneriaeth Tirlun Ynys Cybi. Am ffurflen gais neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am y grant, cysylltwch â thîm Partneriaeth Tirlun Ynys Cybi drwy anfon neges at PartneriaethTirlunYnysCybi@ynysmon.llyw.cymru

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi eu llenwi drwy e-bost at PartneriaethTirlunYnysCybi@ynysmon.llyw.cymru

Dyddiad cau

Dydd Mercher, 19 Mawrth 2025.