Mae'r Cronfa Cymunedau Mentrus yn cefnogi datblygiad economaidd a defnydd o iaith Gymraeg busnesau ar Ynys Môn. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen ARFOR, a weinyddir gan Cyngor Sir Ynys Môn.
Gwahoddwyd ymgeiswyr i gyflwyno ceisiadau am gyllid o haf 2023 ymlaen yn dilyn proses mynegi diddordeb. Mae'r gronfa bellach wedi'i neilltuo'n llawn ac ar gau i geisiadau newydd. Trosolwg o gynnydd hyd yn hyn;
- Bron i £1 miliwn o gyllid grant wedi'u dyrannu
- 30 o fusnesau yn derbyn cefnogaeth
- 25 cynnyrch / gwasanaethau newydd wedi'u creu
- Mae 9 busnes wedi cyflawni'r Cynnig Cymraeg
- 40+ swyddi wedi'u creu
Mae'r cynllun yn cefnogi'r economi leol drwy fuddsoddi mewn prosiectau sy'n datblygu eu cynnig busnes, creu swyddi, diogelu swyddi presennol a chynyddu bywiogrwydd y Gymraeg.
Rhoddodd y gronfa gymorth ariannol hyd at 70% o gyfanswm costau'r prosiect o £6,000 hyd at £75,000 gan gynnwys costau cyfalaf, costau staff, hyfforddiant a chostau offer.
Mae'r prosiectau wedi arwain at y manteision canlynol;
Yr economi
Mwy o gynhyrchiant, lleihau costau rhedeg, moderneiddio prosesau, diogelu dyfodol busnesau, cefnogi cadwyn gyflenwi leol.
Y Gymraeg a'r gymuned
Busnes yn derbyn y Cynnig Cymraeg, mwy o welededd o'r Gymraeg, gwasanaethau newydd mewn ardaloedd gwledig, creu cynnwys Cymraeg newydd.
Canlyniadau a gynlluniwyd (canol tymor)
- Cadw cyfoeth mewn cymunedau
- Cynnydd yn ansawdd swyddi o fewn mentrau
- Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg
- Mentrau sy'n diwallu anghenion trigolion a chymunedau
Mae nodau ac amcanion eraill y rhaglen yn cynnwys;
- Manteision economaidd lleol a manteision i ddyfodol y Gymraeg yn yr ardal.
- Cadw cyfoeth yn y rhanbarth trwy wneud y mwyaf o fanteision lleol.
- Creu cyfleoedd i arloesi a datblygu mentrau newydd sy'n cyd-fynd ag iaith, diwylliant, treftadaeth, adnoddau, budd cymunedol, tirwedd a'r amgylchedd.
- Creu a chefnogi cyfleoedd gwaith cyfoes (er enghraifft, y cyfryngau, digidol, ymchwil, gwasanaethau proffesiynol) i gadw pobl ifanc/teuluoedd yn eu cymunedau.
Mae'n ofynnol i fusnesau a gefnogir gan ARFOR gynnal asesiad iaith gyda Chomisiynydd y Gymraeg, a gweithio tuag at gael cydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg (Y Cynnig Cymraeg).
Rhestr o fusnesau a ddyfarnwyd
Enw busnes |
Lleoliad |
Anglesey Bees – Gwenyn Môn |
Llanddaniel Fab |
Anglesey Fishing Trips |
Caergybi |
Anglesey Hamper Company |
Caergybi |
Anglesey Ice Cream |
Cemaes |
Aria Studios |
Llangefni |
Ateb Cyntaf Cyf |
M-Sparc |
Becws Môn Bakery |
Gaerwen |
Bragdy Cybi |
Caergybi |
Bragdy Mona |
Gaerwen |
Cadarn Consulting |
Llangefni |
M-Sparc / Capventis |
M-Sparc |
Caws Rhydydelyn Cheese |
Rhoscefnhir |
Dewis Architecture |
Llanfairpwll |
Dolmeinir Meats |
Rhosmeirch |
Dragon Forge – Gof y Ddraig |
Llanberdgoch |
Dylan's Restaurant Ltd |
Llangefni |
Gwynfyd Môn – Anglesey Bliss |
Dwyran |
J Thomas Butchers |
Llangefni |
Llanfairpwll Distillery |
Gaerwen |
Llefrith Cybi |
Pont-rhydybont, Ynys Cybi |
Menter Môn (language grant) |
Lleoliadau amrywiol |
Môn Ice |
Caergybi |
Mr Holt's Ltd |
Llangefni |
Pawen Lawen Dog Park |
Niwbwrch |
RDO Pest Management |
Dothan/ Tŷ Croes |
Sensori Sara |
Lleoliadau amrywiol |
Signs & Design |
Llangefni |
Tropic Studio |
M- Sparc |
Y Pethau Bychain |
Gwalchmai / Bethesda |
Zest Housekeeping Ltd |
Llangefni |
Cysylltu
E-bost: arfor@ynysmon.llyw.cymru
Adnoddau
