Cyngor Sir Ynys Môn

Ymgynghoriad ar lefel y Dreth Gyngor i ‘ail gartrefi’ wedi cychwyn

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i gynyddu premiwm y Dreth Gyngor ar ail gartrefi yn Ynys Môn wedi cychwyn.

Rhoddwyd y pŵer i awdurdodau lleol Cymru gyflwyno cost ychwanegol ar anheddau a oedd yn cael eu byw ynddynt o bryd i’w gilydd – ail gartrefi neu eiddo a oedd yn wag ers cyfnod hir – ar 1 Ebrill 2017.

Ar hyn o bryd, mae 10 awdurdod lleol yng Nghymru yn gweithredu’r premiwm ail gartrefi, gyda’r lefel yn amrywio rhwng 25% a 100%. Cododd Cyngor Sir Ynys Môn ei bremiwm ar ail gartrefi o 25% i 35% ar 1 Ebrill 2019 ac mae’r Pwyllgor Gwaith bellach yn ystyried cynnydd arall i 50% o fis Ebrill 2022.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn defnyddio £350,000 bob blwyddyn o’r premiwm, ac hyd yma maent wedi cynorthwyo dros 90 o drigolion lleol, nad oeddent yn berchen ar eiddo, i brynu eu cartref cyntaf. Mae’r cymorth hwn wedi’i ddarparu drwy wahanol fenthyciadau a grantiau i ymgeiswyr sy’n gymwys am gymorth.

Gyda mwy na 2,000 o gartrefi ar yr Ynys heb neb yn byw ynddynt am rannau o’r flwyddyn, byddai’r Pwyllgor Gwaith yn defnyddio’r cyllid ychwanegol er mwyn helpu mwy o drigolion lleol, yn enwedig pobl ifanc, i brynu tŷ am y tro cyntaf.

Eglurodd y deilydd portffolio Cyllid, y Cynghorydd Robin Williams, “Drwy’r broses ymgynghori hon, byddwn yn gofyn am farn trigolion Ynys Môn, perchnogion ail gartrefi ar yr ynys a gweithredwyr llety hunanarlwyo am ein bwriad i gynyddu’r premiwm i 50% o fis Ebrill 2022.”

“Mae’r premiwm presennol ar ail gartrefi eisoes wedi ein cynorthwyo ni i gefnogi rhai o drigolion Ynys Môn i brynu eu tai cyntaf ac i fyw yn eu cymunedau lleol. Byddai codi’r premiwm yn ein galluogi ni i roi’r cymorth hwnnw i fwy o’n pobl ifanc er mwyn eu cynorthwyo i brynu eu tai cyntaf, rhywbeth sydd mor anodd ar hyn o bryd oherwydd y prisiau tai uchel.”

Mae’r ymgynghoriad ar agor i drigolion Ynys Môn, perchnogion ail gartrefi ar yr ynys a gweithredwyr llety hunanarlwyo. Gofynnir am eu safbwyntiau ar yr effaith mae nifer presennol yr ail gartrefi ac unedau hunanarlwyo yn ei gael ar gymunedau lleol, yr economi leol a’r iaith Gymraeg ac a ddylai’r cynnydd arfaethedig yn y premiwm fod yn uwch na’r 50% sy’n cael ei gynnig?

Mae’r ymgynghoriad ar-lein i’w weld yma: www.ynysmon.gov.uk/ymgynghoriad-ail-gartrefi a’r dyddiad cau ar gyfer ymateb yw dydd Gwener, 6 Awst, 2021.

Mae copïau papur, print bras, braille a fersiynau hawdd eu darllen ar gael ar gais. Cysylltwch â Llinos M Roberts (Rheolwr Refeniw a Budd-dlaiadu) drwy e-bost: LlinosRoberts5@ynysmon.llyw.cymru

Bydd y wybodaeth a gesglir drwy’r arolwg ar-lein yn cael ei defnyddio er mwyn llunio asesiad effaith cynhwysfawr. Bydd asesiad effaith ynghyd ag adroddiad yn amlinellu’r ymatebion i’r arolwg yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith wrth iddo ddod i benderfyniad ar y mater yn yr Hydref.

Diwedd 15.6.21

Nodiadau i Olygyddion:

Nid yw Deddf Tai (Cymru) 2014 yn nodi sut ddylai Cynghorau ddefnyddio’r refeniw ychwanegol a godir drwy’r premiwm ond mae’r arweiniad a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn nodi mai bwriad y disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol yw er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol i

  • ddod â chartrefi gwag tymor hir yn ôl i ddefnydd er mwyn darparu cartrefi diogel a fforddiadwy
  • cefnogi awdurdodau lleol i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy ac ehangu cynaliadwyedd cymunedau lleol’