Cyngor Sir Ynys Môn

Ymgynghori ar gynigion moderneiddio ysgolion Llangefni i fynd ymlaen

Mae Pwyllgor Gwaith Môn wedi cytuno i ymgynghori ar ddyfodol darpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Llangefni.

Bu i aelodau’r Pwyllgor Gwaith heddiw (Dydd Llun, Ionawr 20fed) awdurdodi swyddogion i gynnal ymgynghoriad statudol ar gynigion all weld £16m yn cael ei fuddsoddi mewn addysg yn ardal Llangefni.

Mae’r cynigion yn cynnwys:

  • Adleoli ac adeiladu ysgol newydd gwerth £10 miliwn ar gyfer Ysgol Corn Hir ar safle gwahanol a fydd hefyd yn cynnwys disgyblion Ysgol Bodffordd, cau Ysgol Bodffordd ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir
  • Cynyddu capasiti Ysgol y Graig gydag estyniad gwerth £6 miliwn i allu cynnwys disgyblion Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn

Mae’r cynigion wedi eu llunio er mwyn sicrhau cynaliadwyedd tymor hir addysg yn ardal Llangefni gan sicrhau hefyd bod digon o le mewn ysgolion er mwyn bodloni gofynion presennol ac yn y dyfodol.

Bwriedir cychwyn cyfnod ymgynghori statudol o chwe wythnos yn ystod mis Chwefror.

Eglurodd y deilydd portffolio Addysg, y Cynghorydd Meirion Jones, “Nod ein rhaglen foderneiddio yw creu’r amgylchedd addysgol gorau posibl ar gyfer athrawon, staff a darparu’r addysg gorau posib ar gyfer dyfodol ein plant.”

“Nid oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi ei wneud ar y cynigion yma ar gyfer Llangefni, felly byddaf yn annog y rhanddeiliaid i gyd i ddatgan barn yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol fydd yn parhau am chwe wythnos. Bydd yr adborth gawn yn ystod yr ymgynghoriad yma’n holl bwysig wrth gynorthwyo’r broses o ddod i benderfyniad.”

Ers i Raglen Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn ddechrau yn 2012, mae’r Cyngor Sir wedi buddsoddi oddeutu £22m mewn addysg ar yr Ynys gydag ysgolion 21ain Ganrif wedi eu hadeiladu a’u hagor yng Nghaergybi, Llanfaethlu a Niwbwrch. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu ysgolion sy’n addas ar gyfer y 21ain Ganrif ar gael ar hyn o bryd.

Mae’r Awdurdod eisiau buddsoddi yn nyfodol plant a phobl ifanc Ynys Môn, drwy sicrhau eu bod yn cael eu haddysgu mewn adeiladau sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif, bod yr adeiladau hynny yn y lle cywir ac yn bodloni anghenion y disgyblion a’r staff, yn helpu i godi safonau ac amddiffyn yr iaith Gymraeg.

Diwedd 20.1.20 

Nodiadau i Olygyddion: 

Ym Mai 2019, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith i swyddogion edrych o’r newydd ar ardaloedd Llangefni a Seiriol. Mae gwaith wedi mynd rhagddo dros y chwe mis diwethaf er mwyn edrych o’r newydd ar rai agweddau o’r rhaglen moderneiddio ysgolion a’r gofynion a nodir yn y Cod Trefniadaeth 2018. 

Cyhoeddodd y Cyngor Sir ei fod yn bwriadu ail-gychwyn ei raglen moderneiddio ysgolion yn gynharach y mis yma. Caiff cynigion yn gysylltiedig â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar gyfer dalgylchoedd Seiriol ac Amlwch hefyd eu hystyried dros y 12 mis nesaf.