Cyngor Sir Ynys Môn

‘Newyddion gwych’ Morlais yn hwb i raglen Ynys Ynni Môn

Mae’r newyddion bod cwmni o Sbaen wedi sicrhau cytundeb i greu pŵer yn un o barthau Morlais wedi ei groesawu fel hwb i raglen Ynys Ynni Môn.

Mae gan brosiect Morlais y potensial i greu un o’r safleoedd ynni llif llanw mwyaf y byd, gyda’r gallu i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan drwy leoli cyfres o dyrbinau llanw yn y môr oddi ar arfordir Ynys Lawd, ger Caergybi.

Un o’i dyfeisiadau Magallanes Renovables fydd y cyntaf i gael ei leoli mewn parth oddi ar arfordir Môn, ar ôl cyhoeddiad yr wythnos diwethaf bod y cwmni wedi sicrhau Contract ar gyfer Gwahaniaeth gan Lywodraeth Prydain.

Mae Magallanes Renovables bellach wedi sicrhau tariff ar gyfer cyfnod o 15 mlynedd sydd yn rhoi sicrwydd refeniw iddynt hwy a’r diwydiant ynni llanw. Bydd yn creu 5.62MW fel rhan o brosiect Morlais gyda’r pŵer yma’n cyrraedd y grid cenedlaethol yn 2025.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Deilydd Portffolio Datblygu’r Economi, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Mae cyhoeddiad yma’n newyddion gwych i Morlais ac yn galluogi’r prosiect i symud ymlaen i’r cam nesaf lle y bydd amryw o ddyfeisiadau yn dechrau cael ei lleoli o fewn y parthau.”

“Yn yr un modd, mae’n hwb i ddyheadau’r Cyngor Sir a’n partneriaid ar gyfer ei Raglen Ynys Ynni Môn. Mae’r gwaith clodwiw sydd yn cael ei wneud gan dîm Morlais yn rhan allweddol o’r Rhaglen wrth i ni weithio i sicrhau’r nod o weld Môn ar y blaen o ran ymchwil a datblygiad ynni carbon isel a’n sicrhau buddion economaidd.”

“Mae’r Cyngor yn gefnogol o brosiect Morlais gan y bydd yn creu egni adnewyddadwy ac erbyn hyn yr esiampl gyntaf o ddefnydd masnachol o dechnoleg llif llanw yng Nghymru. Bydd y cynllun hefyd yn sicrhau manteision economaidd-gymdeithasol drwy greu swyddi, meithrin sgiliau lleol, creu cyfleodd cadwyn gyflenwi ac yn ail fuddsoddi'r elw mewn prosiectau amgylcheddol a chymunedol trwy Menter Môn.”

Ychwanegodd y Cyng Jones, “Mae prosiect Morlais yn sicr yn rhan holl bwysig o bortffolio datblygiadau Rhaglen Ynys Ynni ac yn alinio gyda Strategaeth Datgarboneiddio Cymru a’r Deyrnas Unedig.”

Mae prosiect Morlais yn ffurfio un o’r pum prosiect o fewn rhaglen Egni Carbon Isel Uchelgais Gogledd Cymru sy'n anelu at ddatgloi buddion economaidd yn y sector carbon isel.

Diwedd 11 Gorffennaf 2022