Cyngor Sir Ynys Môn

Dirwy mawr ar ôl mewnforio cŵn bach

Ddoe (Dydd Mercher, Mai 22), cafwyd Jamie Rose Colquhoun, o Dundee yn yr Alban, yn euog yn Llys Ynadon Caernarfon ac fe’i dedfrydwyd mewn perthynas â throseddau cysylltiedig â mewnforio cŵn bach drwy Gaergybi. 

Rhoddwyd Colquhoun ar brawf yn ei habsenoldeb am droseddau’n ymwneud â llesiant yn ystod trafnidiaeth. Cafodd ei stopio gan Heddlu Gogledd Cymru ym mhorthladd Caergybi a chanddi 7 o gŵn bach. Cynhaliwyd ymchwiliad dilynol gan swyddogion iechyd anifeiliaid Cyngor Sir Ynys Môn.

Rhoddwyd dirwy o £4,000 i Colquhoun a chafodd ei gorchymyn i dalu costau o £789 a thâl dioddefwr ychwanegol o £100.    

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn, “Bu Colquhoun anwybyddu’r gyfraith mewn perthynas â rheoliadau cludo anifeiliaid, rheoliadau sy’n sicrhau llesiant anifeiliaid pan fyddant yn cael eu cludo. Rhaid i gludwyr masnachol anifeiliaid gadw at y gyfraith a chydymffurfio â rheolau mewnforio a chludo.”

“Mae’r rhain yn faterion difrifol a bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn ymchwilio i achosion o’r fath ac yn rhoi troseddwyr o flaen eu gwell yn y Llysoedd. Mae’r ddedfryd hon yn adlewyrchiad o ddifrifoldeb y troseddau.”

Diwedd 23.5.19