Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyngor Sir yn ethol Cadeirydd newydd

Wedi'i bostio ar 23 Mai 2023

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi dewis y Cynghorydd Margaret Murley Roberts fel ei Gadeirydd newydd.

Cafodd y Cynghorydd Roberts ei hethol ar y cyngor sir yn gyntaf nôl ym mis Mai 2017 ac mae’n un o dri chynghorydd sir sydd yn gwasanaethu Ward Lligwy.

Yn wreiddiol o Foelfre, dychwelodd i fyw ar yr Ynys yn 2006 ar ôl treulio bron 30 mlynedd yn byw yng nghanolbarth Cymru, lle bu iddi fagu ei tri mab gyda’i gwr, Tegwyn.

Ar ôl derbyn cefnogaeth ar gyfer ei henwebiad yn ystod cyfarfod flynyddol cyffredinol y Cyngor Sir Ynys Môn ddoe (Dydd Mawrth, 23 Mai), dywedodd y Cynghorydd Roberts, “Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau am fy ethol ac am roi’r cyfle i mi fod yn bennaeth dinesig y Cyngor yn ystod 2023/24.

“Cefais y fraint o gael fy ethol fel Cadeirydd yn 2019/20 ond, yn anffodus, cafodd fy mlwyddyn ei effeithio’n sylweddol gan Covid-19.”

Ychwanegodd, “Eleni, byddaf unwaith eto’n mynd ati i wasanaethu’r ynys a'i thrigolion hyd eithaf fy ngallu. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn i fod yn llysgennad da ar ran y cyngor sir wrth i mi gyflawni fy nyletswyddau dinesig dros y 12 mis nesaf.”

Cyhoeddodd y Cynghorydd Roberts hefyd mai Banciau Bwyd Môn fyddai Elusen y Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Yn ei hamser hamdden, mae Margaret yn hoffi teithio, cerdded a darllen. Mae hi a Tegwyn yn byw yn Llanbedrgoch ac hefyd yn rhannu diddordeb mawr mewn ffotograffiaeth.

Etholwyd y Cynghorydd Glyn Haynes, sy'n cynrychioli ward Parc a’r Mynydd, yn Is-Gadeirydd ar gyfer 2023 i 2024.

Diwedd 23 Mai 2023


Wedi'i bostio ar 23 Mai 2023