Cyngor Sir Ynys Môn

Cyllid grant i adfer ffiniau caeau traddodiadol Ynys Môn

Mae ffermwyr a rheolwyr tir yn cael eu hannog i gymryd mantais o gyllid grant i warchod, gwella ac adfer ffiniau caeau traddodiadol. Mae Tîm Cefn Gwlad ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) y Cyngor wedi derbyn y cyllid drwy gynllun ‘Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy’ Llywodraeth Cymru.

Mae'r grant yn cynnig hyd at 70% o gyllid i adfer / creu waliau cerrig, gwrychoedd a chloddiau, ac mae uchafswm o £4000 ar gael i bob ymgeisydd. Mae’r ffiniau traddodiadol yma’n rhan annatod o dirlun Môn. Mae ganddynt bwrpas ymarferol ond maent hefyd yn rhan bwysig o amgylchedd hanesyddol yr ynys ac yn hynod bwysig i fywyd gwyllt.

Mae ffiniau cerrig neu wrychoedd yn cynnig cysgod i anifeiliaid rhag tywydd eithafol y gaeaf, neu haul tanbaid yr haf. Maent hefyd yn darparu cynefin i fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn drwy gynnig lloches ddiogel i greaduriaid bychain yn ogystal â choridor diogel i fywyd gwyllt rhwng cynefinoedd allweddol. Mae gwrychoedd yn arbennig o fuddiol i fioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol fel ei gilydd. Maent yn darparu ffynhonnell fwyd i fwyd gwyllt, ac maent hefyd o fudd i’r amgylchedd gan eu bod yn gwella ansawdd yr aer, storio carbon a lliniaru effaith glaw trwm trwy drwy arafu treiddiant dŵr.

Meddai Warden Cymunedol AHNE Môn, Owen Davies, “Mae’r cynllun yn gyfle gwych i reolwyr tir adfer ffiniau caeau. Mae sawl prosiect wedi elwa o’r cynllun yn barod ac rwyf yn edrych ymlaen at weld beth fydd yn cael ei gyflawni yn ystod blwyddyn olaf y cynllun”. Disgwylir cadarnhad gan Lywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn ynglŷn â’r cyllid a fydd ar gael yn y dyfodol.

Mae’r aelod portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol, y Cynghorydd Neville Evans, yn egluro mwy "Dyma gynllun arloesol a fydd o fudd i amgylchedd naturiol Ynys Môn. Bydd hefyd yn cefnogi ein cynllun bioamrywiaeth cyffredinol. Rwyf yn annog ffermwyr a pherchnogion a rheolwyr tir cymwys i fynegi diddordeb drwy gysylltu ag Uned Cefn Gwlad ac AHNE y Cyngor."

Am ragor o wybodaeth neu i fynegi diddordeb cysylltwch ag Uned Cefn Gwlad a AHNE Cyngor Sir Ynys Môn:

E-bost: ⁠⁠AHNE@ynysmon.llyw.cymru

Ffôn: 01248 752 474

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn mynegiadau o ddiddordeb yw Dydd Gwener 24 Mai 2024.

Diwedd 7 Mai 2024

Nodyn i olygyddion

  • Mae’r cynllun Ffiniau Traddodiadol Ynys Môn werth £130,000, gyda’r arian yn cael ei wasgaru dros gyfnod o 3 blynedd.
  • Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dethol gan ddefnyddio cyfres o feini prawf. Bydd ffiniau ‘byw’ fel gwrychoedd yn cael blaenoriaeth oherwydd eu bod yn fwy gwerthfawr i’r amgylchedd, yn ogystal â ffiniau sydd y tu mewn i AHNE Ynys Môn. 
  • Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Owen Davies, Warden Cymunedol AHNE Ynys Môn drwy e-bostio ⁠owendavies2@ynysmon.llyw.cymru ⁠neu ffonio 01248 752474 / 07773571471