Cyngor Sir Ynys Môn

Adeilad nodedig yn cael ei ailwampio wrth i fomentwm y Gronfa Ffyniant Bro ddatblygu

Mae cynlluniau i adfywio tref Caergybi wedi cymryd cam pwysig ymlaen, gyda’r newyddion y bydd adeilad nodedig yn cael ei ailwampio’n fuan iawn.

Mae ‘Môn CF’ wedi prynu hen adeilad HSBC yn dilyn cynnig llwyddiannus, gwerth miliynau, ar gyfer Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Cyflwynwyd y cynnig llwyddiannus gan Gyngor Sir Ynys Môn, a sicrhawyd buddsoddiad gwerth £22.5, gan gynnwys £17m gan y Gronfa Ffyniant Bro, a bydd yn darparu gwerth mwy na £54m o fuddion i’r gymuned.

Mae cynnig “Caergybi: Trawsnewid o safbwynt diwylliant a threftadaeth” yn cynnwys pecyn o brosiectau cyffrous fydd yn gwella cyflogaeth; gwella’r hyn sydd ar gael yng nghanol y dref a phrofiad ymwelwyr; cynyddu nifer yr ymwelwyr a gwariant; darparu lleoliadau modern er mwyn bodloni anghenion busnesau a gwella argaeledd ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a hamdden.

Bydd yr adeilad HSBC, sy’n dri llawr, yn cael ei ailwampio fel rhan o Raglen Eiddo Gwag Môn CF, fydd yn helpu i ddadwneud y dirywiad yng nghanol y dref a gwella balchder preswylwyr dros yr ardal.

Mae’r Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economi, wedi llongyfarch Cymunedau Ymlaen Môn am y pryniant.

Dywedodd y Cynghorydd Medi, “Mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen o ran y pecyn o brosiectau cyffrous fydd yn cael ei ariannu drwy’r Gronfa Ffyniant Bro. Mae’r hen adeilad HSBC yn un o’r eiddo gwag mwyaf ac amlycaf yng nghanol y dref. Cwblhawyd y pryniant ddechrau’r mis hwn, a bydd yn galluogi Môn CF i barhau â’i gynlluniau i atgyweirio’r eiddo er mwyn creu lleoliad newydd a chynaliadwy at ddefnydd y gymuned a busnesau.”

Ychwanegodd, “Llwyddodd y Cyngor Sir i sicrhau cyllid gan y Gronfa Ffyniant Bro, a bydd yn ein galluogi i weithio gyda phartneriaid er mwyn gwireddu’r llu o brosiectau ar ran tref Caergybi a’i phobl”.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref Caergybi, Môn CF, Canolfan Gelfyddydau Ucheldre a’r Eglwys yng Nghymru er mwyn cyflwyno rhaglen yn llawn gwaith cyffrous erbyn Mawrth 2025.

Mae’r gwaith yn cynnwys estyniad sylweddol i Ganolfan Gelfyddydau Ucheldre a Chanolfan Chwarae Empire Cyngor Tref Caergybi; adnewyddu Eglwys Cybi Sant a gwelliannau pellach yng Nghanolfan Dreftadaeth Ymwelwyr y Morglawdd.

Dywedodd Alun Roberts Môn CF, “Mae gallu prynu’r adeilad HSBC yn garreg filltir enfawr yn ein Rhaglen Eiddo Gwag. Mae’n adeilad nodedig yng nghanol y dref ond mae wedi bod yn wag ers cryn amser.”

“Bydd yr adeilad yn cael ei addasu er mwyn cynnig cymysgedd o ddefnydd masnachol, gan gynnwys estyniad newydd fydd yn gartref i ficro-fragdy. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys cynnal rhai nodweddion archeolegol yn ogystal ag atgyweirio’r strwythur presennol”.

Ychwanegodd Alun Roberts, “Rydym yn edrych ymlaen at roi ail fywyd i’r adeilad. Drwy weithio gyda phartneriaid, rydym yn gobeithio dod a bywiogrwydd, sydd ei angen yn fawr, i ganol y dref; gan sicrhau bod y gymuned a busnesau’n gallu ei ddefnyddio, yn ogystal â sicrhau ei fod yn lleoliad dymunol ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr.”

Mae rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru yng Nghaergybi, tref fwyaf yr ynys. Bydd y cais llwyddiannus ar gyfer y Gronfa Ffyniant Bro yn gwella asedau lleol pwysig er mwyn gwneud yr ardal yn lle gwell i fyw ac i ymweld â hi.

Cefnogwyd y cynnig hwn ar gyfer Caergybi gan Virginia Crosbie AS, ac roedd yn gydnaws ag amcanion y Papur Gwyn Ffyniant Bro. Ystyriwyd mai dyma’r unig gynnig gyda gobaith credadwy o gefnogaeth a llwyddiant yn y broses ymgeisio gystadleuol.

 

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

Mae prif elfennau rhaglen y Gronfa Ffyniant Bro yn cynnwys:

  • Estyniad sylweddol i Ganolfan Gelfyddydau Ucheldre - i ddarparu cyfleusterau gwell a mwy o gapasiti er mwyn galluogi’r sefydliad diwylliannol allweddol hwn i dyfu a chyrraedd mwy o bobl.
  • Adnewyddu Eglwys Cybi Sant, prif ased cofrestredig Gradd 1 treftadaeth Caergybi, ynghyd ag Eglwys y Bedd, er mwyn sefydlu hwb cymunedol i helpu pobl leol a dod a mwy o fwrlwm i ganol y dref.
  • Estyniad sylweddol gan Gyngor Tref Caergybi i Ganolfan Chwarae Empire – prif atyniadau dan do’r dref, i ymorol am y galw cynyddol a gwella edrychiad Traeth Newry i ddarparu cyfleusterau gwell i bobl leol ac ymwelwyr.
  • Bydd Môn CF yn rhoi rhaglen ar waith i adfer adeiladau gwag, gan dargedu rhai o’n hadeiladu mwyaf ac amlycaf i greu mannau cymunedol cynaliadwy a bywiog, a sicrhau bod yr adeiladau hyn yn cael eu hachub ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn ymestyn ei raglen Trawsnewid Treflun hynod lwyddiannus i adnewyddu adeiladau treftadaeth er mwyn helpu i ddadwneud y dirywiad yng nghanol y dref.
  • Gwelliannau pellach i Ganolfan Dreftadaeth Ymwelwyr y Morglawdd, yn cynnwys gwella’r llwybrau a’r ardal gyhoeddus a’r llwybrau a chysylltiadau rhwng y Parc Gwledig a chanol y dref, fel bod mwy o bobl yn gallu dysgu am dreftadaeth Caergybi, Ynys Cybi ac Ynys Môn.