Y cyd-destun: pwysau cyllidol 2022 i 2023
Dylid darllen y ddogfen hon cyn ateb yr ymgynghoriad.
Mae’r pwysau ar gyfer 2022 i 2023 yn cael ei weld fel a ganlyn:
Cynnydd mewn plant mewn gofal - £486k
Mae pwysau ar hyn o bryd mewn perthynas â chostau lleoliadau preswyl arbenigol na ellir ymdrin â hwy yn lleol.
Yn ogystal, mae nifer y plant sy’n cael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Arbenigol Plant wedi cynyddu 67% dros y 3 blynedd diwethaf a bydd newidiadau i amrywiol ddarnau o ddeddfwriaeth yn arwain at bwysau ychwanegol.
Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaeth yn caniatáu inni gwrdd â'r cynnydd yma.
Capasiti yn y Gwasanaeth Adnoddau - £56k
Bydd y cyllid ychwanegol yn cynyddu’r capasiti o fewn y Gwasanaeth a bydd yn caniatáu inni fynd i’r afael a moderneiddio systemau a phrosesau busnes.
Bydd hyn yn gwella effeithlonrwydd ac yn darparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid mewnol ac allanol.
Cynnydd yn y galw yn y Gwasanaeth Dysgu – £1,120k
Bydd buddsoddiad ychwanegol yn rhoi cyfle i'r gwasanaeth fynd i'r afael â'r galw presennol ac yn y dyfodol o fewn y sector.
Mae capasiti arweinyddiaeth a rheolaeth, y bil ADY newydd, gofynion Technoleg Gwybodaeth presennol ac i’r dyfodol, yn ogystal â heriau oherwydd y pandemig i gyd yn feysydd sy'n cael eu hystyried.
Bydd y buddsoddiad hefyd yn cynorthwyo gyda'r amcan o gyrraedd rhagoriaeth ar draws pob sector addysg.
Ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw ysgolion ar yr ynys mewn categori Estyn, symudwn ymlaen yn awr gyda'r nod o gyrraedd rhagoriaeth.
Uchafu’r capasiti yng ngallu’r Cyngor i drawsnewid gwasanaethau o ganlyniad i effaith y pandemig - £297k
Bydd buddsoddiad ychwanegol yn cynyddu’r capasiti o fewn y Gwasanaeth i ddarparu cefnogaeth i wasanaethau i barhau i foderneiddio a gwella gwasanaethau a phrosesau, yn enwedig gwella systemau Technoleg Gwybodaeth fydd yn greiddiol i’n trosiant wedi’r pandemig.
Cynnydd mewn pwysau yn y Gwasanaeth Oedolion – £489k
Bydd buddsoddiad ychwanegol yn darparu cyllid i ddelio â galw cynyddol ond bydd hefyd yn cynyddu capasiti o fewn y gwasanaeth, i drawsnewid a moderneiddio prosesau busnes a darparu gwasanaethau.
Bydd hyn yn lleihau risgiau comisiynu ac yn darparu gwell dulliau o fesur perfformiad ac effeithiolrwydd y gwasanaeth i'r dyfodol.
Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo - £446k
Darpara’r buddsoddiad ychwanegol gyllid i fynd i’r afael â risgiau a blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg ar draws y gwasanaeth (datgarboneiddio, clefyd coed ynn (ash dieback), newidiadau yn y galw am wasanaethau a disgwyliadau’r cyhoedd ar ôl Covid o ran hylendid a glendid adeiladau cyhoeddus).
Bydd hefyd yn caniatáu i brosiectau gael eu datblygu i wneud cais am arian grant allanol yn enwedig mewn ymateb i amcan y Cyngor i ddod yn sefydliad di-garbon erbyn 2030.
Rheoleiddio a Datblygu’r Economi - £196k
Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn cwmpasu tri phrif faes o fewn y Gwasanaeth; Morwrol, Gwarchod y Cyhoedd a Datblygu Economaidd.
Morwrol – bydd y buddsoddiad yn gwella’r gallu i sicrhau y gellir rheoli holl ddefnyddwyr morol yn fwy effeithiol a bydd yn caniatáu inni adnabod a lliniaru risgiau morwrol a rheoli’n defnydd o fadau dŵr yn well.
Gwarchod y Cyhoedd – mae sicrhau amgylchedd byw a gweithio diogel ac iach i breswylwyr a busnesau yn ddyletswydd gorfforaethol glir. Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn galluogi'r Gwasanaeth i ymateb yn effeithiol i bryderon a digwyddiadau amgylcheddol.
Datblygu Economaidd - mae'r Ynys yn wynebu llawer o heriau economaidd-gymdeithasol. Mae'n hollbwysig bod y Gwasanaeth yn meddu ar y gallu i fynd i'r afael â'r materion hyn mewn modd cydlynol ac effeithiol.
Y nod fydd sicrhau mewnfuddsoddiad i’r Ynys, dylanwadu ar weithgareddau economaidd rhanbarthol a chefnogi asedau economaidd hollbwysig yr ynys.
Yn ogystal â chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwariant refeniw, mae'r Cyngor hefyd yn derbyn £3.643m mewn cyllid i ymgymryd â phrosiectau cyfalaf.
Mae prif flaenoriaethau strategaeth cyfalaf y Cyngor yn amlygu defnyddio’r fath fuddsoddiad ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw mawr ar ysgolion ac adeiladau eraill y Cyngor, cynyddu'r gyllideb ar gyfer cynnal a chadw'r rhwydwaith ffyrdd, gwella toiledau cyhoeddus, cyfnewid cerbydau wrth iddynt ddod i ddiwedd eu hoes weithredol a chynnal ac uwchraddio seilwaith technoleg gwybodaeth.
Rhaid ariannu unrhyw brosiectau ychwanegol o grantiau allanol, benthyca ychwanegol a defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor ei hun.
Mae'r Cyngor yn bwriadu defnyddio hyd at £1.681m o'i gronfeydd wrth gefn cyffredinol i ariannu rhan o’r cynllun cyfalaf ynghyd â £1.795m o’i gronfeydd wrth gefn clustnodedig i ariannu’r rhan fwyaf o weddill y cynllun (mae cwestiwn am hyn yn yr ymgynghoriad).