Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun seddi gweigion: telerau ac amodau

1. Nid oes gwarantu dyraniadau seddi gweigion.

2. Cost sedd wag arferol fydd £180 bob blwyddyn academaidd, fesul disgybl, yn daladwy o flaen llaw (cost yn gywir yn y flwyddyn ysgol 2019/20).  Serch hynny, oherwydd deddfwriaeth Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 (PSVAR), ni fydd yr awdurdod yn codi tâl am docynnau bws ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023

3. Gellir tynnu’n ôl oddi wrth sedd wag gyda lleiafswm o bythefnos o rybudd.

4. Gall cyfnod rhybudd gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus a gwyliau ysgol.

5. Gellir tynnu sedd wag yn ôl os:

  • oes angen y sedd honno ar gyfer disgybl sy’n gymwys am gludiant cartref i’r ysgol am ddim
  • tynnir y gwasanaethau bws yn eu hôl os nad oes digon o blant cymwys yn teithio
  • diffyg cydymffurfiaeth â Chod Ymddygiad Teithio Llywodraeth Cymru

6. Yn y digwyddiad bod sedd wag yn cael ei thynnu’n ôl, disgwylir i rieni wneud eu trefniadau eu hunain i sicrhau bod eu plentyn yn teithio i ac o’r ysgol. Ni fydd yr Awdurdod yn gwneud unrhyw drefniadau pellach i gludo’r plentyn hwnnw.

7. Mae gan y Cyngor yr hawl i symud disgyblion rhwng cerbydau neu ail-gyfeirio cerbydau er mwyn rheoli llwythau.

8. Bydd sedd wag yn cael ei gwerthu ar y rhagdybiaeth bod y plentyn yn teithio 5 diwrnod yr wythnos.

9. Lle caiff seddi gweigion eu gwerthu ar gyfer rhan o’r wythnos (ar sail disgresiwn yn unig) gellir tynnu’r sedd gonsesiynol yn ei hôl os yw cais yn cael ei dderbyn i blentyn arall deithio 5 diwrnod yr wythnos.

10. Dim ond ar ôl i’r tymor ddechrau y gellir cynnig seddi gweigion. Yn yr achos hwn, bydd cost y flwyddyn gyfan (£180) yn daladwy o hyd.