Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cronfa ddata gwybodaeth addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith yn Ynys Môn: Hysbysiad preifatrwydd

Y cyngor a’r ysgolion unigol (fel y nodir yn Atodiad A) yw’r rheolydd data ar gyfer y cronfa ddata gwybodaeth addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith yn Ynys Môn.

Yr hysbysiad preifatrwydd hwn

Pwrpas yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw dweud wrthych sut y bydd y cyngor a’r ysgolion unigol yn prosesu eich data personol at ddiben creu cronfa ddata gwybodaeth ar gyfer ysgolion ar Ynys Môn i’w defnyddio o ganlyniad i chi ddarparu gwybodaeth drwy’r arolwg 'Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n gysylltiedig â Byd Gwaith yn Ynys Môn'. Mae gennych hawliau o ran sut y caiff eich data ei gasglu a'i ddefnyddio at y diben hwn. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi yma beth yw’r hawliau hynny a sut y gallwch eu harfer.

Mae’r cyngor a’r ysgolion wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol.

Ni chaniateir i’r cyngor nac i’r ysgolion ddefnyddio, casglu na rhannu gwybodaeth bersonol oni bai bod gennym sail gyfreithiol briodol dros wneud hynny. Dim ond er mwyn cyflawni ein swyddogaethau cyfreithiol a swyddogol y byddwn yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol. Ni fyddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny a lle mae’n angenrheidiol ac yn gymesur i wneud hynny.

Enw a manylion cyswllt swyddog diogelu data’r cyngor a’r swyddog diogelu data ysgolion

Mae’r cyngor wedi penodi swyddog diogelu data i gynorthwyo gyda sicrhau ei fod yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol wrth brosesu data personol. Gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy’r cyfeiriad e-bost DPO@ynysmon.llyw.cymru.

Mae’r ysgolion hefyd wedi penodi Swyddog Diogelu Data Ysgolion i gynorthwyo gyda sicrhau eu bod yn cyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol wrth brosesu data personol. Gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data Ysgolion drwy’r cyfeiriad e-bost dpoysgolionmon@ynysmon.llyw.cymru.

Cysylltwch ag Ysgol Caergeiliog yn uniongyrchol os ydych am drafod materion diogelu data - cfsadmin@ycfs.cymru

Pa ddata personol ydym yn ei gasglu a pham?

Mae eich data personol yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio er mwyn creu Cronfa Ddata Gwybodaeth Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n gysylltiedig â Byd Gwaith yn Ynys Môn y bydd ysgolion yn gallu ei defnyddio i gysylltu â chi ynglŷn â gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith posibl ar gyfer eu disgyblion. Mae’r gronfa ddata’n cael ei chreu er mwyn cefnogi un o'r pum thema drawsbynciol yn y Cwricwlwm i Gymru, addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith (CWRE), sy'n ceisio helpu dysgwyr i ddeall y berthynas rhwng eu dysgu a'r byd gwaith.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich data personol i gysylltu â chi am faterion cysylltiedig.

Rydym yn casglu eich enw, cyfeiriad, cod post, manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) fel rhan o’r arolwg. Mae’r data hwn yn berthnasol i'ch busnes ond gall fod yn ddata personol os yw eich busnes wedi ei leoli yn eich cyfeiriad cartref.

Sut ydym yn defnyddio eich data personol?

Mae’r Cyngor yn gychwynnol yn casglu eich data personol drwy arolwg er mwyn casglu gwybodaeth ynglŷn ag a oes gan eich busnes ddiddordeb ai pheidio mewn cefnogi pobl ifanc sy’n mynychu ysgolion Ynys Môn gyda chyfleoedd gyrfa sy’n gysylltiedig â gwaith (gweler hysbysiad preifatrwydd ar wahân ar gyfer 'arolwg Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n gysylltiedig â Byd Gwaith yn Ynys Môn' am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r arolwg).

Bydd y Cyngor yn rhannu eich gwybodaeth, os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi’r bobl ifanc, gydag ysgolion unigol fel bod yr ysgolion yn cysylltu â chi’n uniongyrchol ynglŷn â chyfleoedd gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith posibl ar gyfer eu disgyblion.

Hefyd, os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig cyfleon prentisiaeth, bydd y Cyngor yn rhannu eich gwybodaeth hefyd ar Gwefan Llwybrau Môn, sef llwyfan sydd yn hysbysu gwahanol opsiynau ôl-16 i ddysgwyr Ynys Môn a Gwynedd. Mi fydd y wefan yn mynd yn fyw ar ddechrau 2024 ac mi fydd mwy o wybodaeth ar gael ar sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio bryd hynny.

Sail gyfreithlon dros brosesu’r data

Rydym yn defnyddio’r sail gyfreithlon a ganlyn dan GDPR y DU dros brosesu data personol:

6(1)(e) o GDPR y DU - mae prosesu’n angenrheidiol ac yn ymgymryd â thasg ym muddiannau’r cyhoedd neu’n ymarfer awdurdod swyddogol.

Ni fyddwn yn fwriadol yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth sy’n cael ei chategoreiddio fel data personol categori arbennig.

Rhannu eich data personol

Gall y Cyngor a’r ysgolion rannu eich data â phartïon allanol eraill lle mae’n ofynnol iddo wneud hynny neu pan fo’n gyfreithlon ac yn briodol gwneud hynny. Noder, lle gallwn rannu eich data yn allanol, y sefydliad hwnnw fydd yn cymryd cyfrifoldeb am eich data bryd hynny a dylech droi at eu hysbysiad preifatrwydd hwy am fanylion ar sut y byddant yn prosesu eich data.

Rydym yn cymhwyso’r egwyddorion canlynol pan ddefnyddiwn wybodaeth bersonol

  • Prosesu’n gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw.
  • Casglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon (‘cyfyngiad pwrpas’).
  • Yn ddigonol, perthnasol ac wedi ei chyfyngu i beth sy’n angenrheidiol.
  • Yn gywir, a lle bo’n angenrheidiol, yn cael ei chadw’n gyfredol.
  • Ei chadw mewn ffurf sy’n caniatáu adnabyddiaeth o wrthrychau data am ddim hirach na sydd angen.
  • Yn cael ei phrosesu mewn ffordd sy’n sicrhau diogelwch priodol o’r data personol.

Eich hawliau fel gwrthrych y data

Eich data personol chi yw’r data sy’n cael ei gasglu, ac mae gennych hawliau sy’n cael effeithio ar yr hyn sy’n digwydd iddynt. Mae gennych yr hawl i weld y data personol y mae’r cyngor a’r ysgolion yn ei gadw amdanoch, cael copi ohono a gofyn i’r awdurdod a’r ysgolion gywiro eich data personol os oes unrhyw wallau neu os yw wedi dyddio. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych hawl hefyd i ofyn i’r Cyngor a’r ysgolion roi’r gorau i brosesu eich data personol hyd nes y caiff unrhyw wallau eu cywiro, gwrthwynebu prosesu neu drosglwyddo, neu (yn anaml iawn) ddileu eich data personol.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data perthnasol fel y nodir uchod.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth neu drwy eu llinell gymorth ffôn 0303 123 1113.

A anfonir unrhyw ddata personol dramor?

Na, ni fydd data personol yn cael ei anfon dramor.

Gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd

Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud am unigolion sy’n seiliedig ar wneud penderfyniadau awtomataidd yn unig (lle gwneir penderfyniad yn eu cylch gan ddefnyddio system electronig heb gysylltiad dynol) ac sy’n cael effaith sylweddol arnynt.

Storio, diogelu a rheoli data

Mae gan y cyngor a’r ysgolion ddyletswydd i ddiogelu a sicrhau diogelwch eich data personol pan fyddwn yn ei brosesu. Gwnawn hynny drwy gael systemau a pholisïau yn eu lle i gyfyngu ar fynediad i'ch gwybodaeth ac atal ei datgelu heb awdurdod, colled ddamweiniol neu newid eich data. Mae gennym hefyd weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri rheolau data personol a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys os torrir y gweithdrefnau lle mae'n ofynnol, yn gyfreithiol, i ni wneud hynny.

Am ba hyd fydd y cyngor yn cadw’r data personol?

Bydd y cyngor a’r ysgolion yn cadw’r data am dair blynedd ac yna’n cael gwared arno’n ddiogel.

Cwynion a mwy o wybodaeth

Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth, byddwn yn cadw at y gyfraith, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.

Os ydych yn anhapus gyda’r ffordd y mae’r cyngor neu’r ysgolion wedi gweithredu wrth ddefnyddio eich data personol, gallwch wneud cwyn drwy gysylltu â’r swyddog diogelu data perthnasol.

Os ydych dal yn anfodlon neu’n dymuno cyngor annibynnol ar ddiogelu data, preifatrwydd a rhannu data, gallwch gysylltu â:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 neu 01625 545 745

Gwefan: https://ico.org.uk/

Newidiadau i’n hysbysiad preifatrwydd

Rydym yn cadw ein Hysbysiad Preifatrwydd dan adolygiad parhaus a byddwn yn rhannu unrhyw ddiwygiadau.

Cyhoeddwyd 14 Tachwedd 2023

Diweddarwyd diwethaf 14 Tachwedd 2023

Atodiad A

Ysgol Gynradd Amlwch

Ysgol Llanfechell

Ysgol Beaumaris

Ysgol Llandegfan

Ysgol Gynradd Bodedern

Ysgol Pencarnisiog

Ysgol Esceifiog

Ysgol Talwrn

Ysgol Rhosneigr

Ysgol Kingsland

Ysgol Gyfun Llangefni

Canolfan Addysg y Bont

Ysgol Cemaes

Ysgol Garreglefn

Ysgol Llanfairpwllgwyngyll

Ysgol y Borth

Ysgol Bryngwran

Ysgol Gymraeg Morswyn

Ysgol Llanbedrgoch

Ysgol Corn Hir

Ysgol Gymuned y Fali

Ysgol Cybi

Ysgol Syr Thomas Jones

Ysgol Caergeiliog

Ysgol Goronwy Owen

Ysgol Penysarn

Ysgol Llangoed

Ysgol Parc y Bont

Ysgol y Ffridd

Ysgol Rhyd y Llan

Ysgol y Graig

Ysgol Santes Dwynwen

Ysgol Llanfawr

Ysgol Santes Fair

Ysgol David Hughes

Ysgol Moelfre

Ysgol Rhosybol

Ysgol Pentraeth

Ysgol Brynsiencyn

Ysgol Llannerch-y-Medd

Ysgol Bodffordd

Ysgol Henblas

Ysgol Rhoscolyn

Ysgol y Tywyn

Ysgol Uwchradd Bodedern

Ysgol Uwchradd Caergybi