Rhaglen byd-eang yw’r rhaglen Eco-Sgolion ar gyfer integreiddio datblygiad cynaliadwy a gwelliannau amgylcheddol ar draws ystod eang o weithgareddau yr ymgymerir â hwy’n arferol gan ysgol.
Rhaid i'r rhaglen gynnwys yr holl blant yn yr ysgol, yn ogystal â staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, y Corff Llywodraethol a rhieni. Yn y pen draw, y nod yw i'r egwyddorion sy'n sail i Eco-Sgolion ddod yn ffordd arferol o fyw i'r ysgol gyfan.
Mae disgyblion yn cymryd rolau allweddol wrth wneud penderfyniadau a chyfranogiad er mwyn lleihau effaith amgylcheddol yr ysgol. Yn y modd hwn, mae Eco-Sgolion yn ehangu dysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth ac yn datblygu agweddau dinasyddiaeth gyfrifol gartref ac yn y gymuned ehangach.
Mae'r rhaglen Eco-Sgolion yn ddigon hyblyg i ganiatáu ysgolion i benderfynu ar eu blaenoriaethau a'u targedau eu hunain ac felly mae'n eu galluogi i symud ymlaen trwy'r rhaglen ar gyfradd y maent yn gyfforddus â hi.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau amser ar yr ysgol gan y cynllun. Mae'r ystod o faterion amgylcheddol y mae'r cynllun yn eu cwmpasu’n cynnwys:
- effeithlonrwydd ynni
- defnyddio dŵr
- tir yr ysgol
- sbwriel
- ffyrdd iach o fyw
- trafnidiaeth
- lleihau gwastraff
Y gwobrau Eco-Sgolion
Mae 3 gwobr wahanol ar gael i Eco-Ysgolion. Gall ysgolion sy'n dangos ymrwymiad i wella eu perfformiad amgylcheddol fod yn gymwys i dderbyn gwobr Eco-Sgolion o fri.
Am ragor o wybodaeth am Eco-Sgolion ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus.