Mae grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael i berchnogion tai neu ddarpar berchnogion tai ar gyfer adnewyddu eiddo gwag i’w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.
Mae’r grant ar gael mewn rhandaliadau wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd roi cyfraniad gwerth o leiaf 15%.
Meini prawf cymhwysedd
Gall unrhyw un wneud cais am grant.
Fodd bynnag, i fod yn gymwys:
- rhaid bod yr eiddo wedi’i gofrestru yn wag a heb ei ddodrefnu gyda’r awdurdod lleol am o leiaf 12 mis;
- Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod â chysylltiad lleol ag Ynys Môn. Mae gan o leiaf un o'r ymgeiswyr:
- byw neu weithio ar Ynys Môn am gyfnod parhaus o bum mlynedd neu fwy yn union cyn cyflwyno’r cais, neu
- wedi byw ar Ynys Môn am gyfnod parhaus o bum mlynedd neu fwy rhywbryd yn y gorffennol
- rhaid bod yr eiddo o dan berchnogaeth yr ymgeisydd, neu ei fod yn y broses o’i brynu pan fo’r cais yn cael ei wneud; ac
- os yn llwyddiannus, rhaid i’r ymgeisydd fyw yn yr eiddo am o leiaf 5 mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith a hynny fel ei brif a’i unig breswylfa
Gwneud cais
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sy’n cyflawni’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.
Gwneud cais am grant cartrefi gwaag yma - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Manylion cyswllt
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Rhif ffôn: 01443 494712
E-bost: GrantiauCartrefiGwag@rctcbc.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg.
Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol - Cwestiynau Cyffredin - bydd y ddolen yn agor tab newydd