Amcan y Cynllun hwn gan Gyngor Sir Ynys Môn yw cefnogi prynwyr tro cyntaf lleol i ddod yn berchennog cartref sy’n fforddiadwy iddynt, ac i ddod â thŷ sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir ac sydd angen ei wella yn ôl i ddefnydd.
Mae’r math hwn o gymorth yn ddewisol ac mae’n ddibynnol ar yr arian sydd ar gael
Nodwch os gwelwch yn dda nad yw cynnig o grant wedi’i warantu hyd nes eich bod wedi cyflwyno cais ac wedi derbyn cymeradwyaeth ffurfiol gan y cyngor.
Dylai darpar ymgeiswyr gysylltu â’r cyngor yn y lle cyntaf, cyn prynu’r eiddo, a dylent dderbyn pecyn cais grant cyn cwblhau’r pryniant.
Rhaid cyflwyno ceisiadau o fewn 6 wythnos i ddyddiad prynu’r eiddo.
Eiddo cymwys
Dylai eiddo cymwys fod:
- yn wag am o leiaf chwe mis cyn ei brynu, yn ôl cofnodion y cyngor. (Gallwch gysylltu â’r Swyddog Tai Gwag i wirio hyn.)
- os prynir yr eiddo yn breifat, bydd yn ofynnol i'r prynwyr dderbyn Prisiad ‘Llyfr Coch’ annibynnol gan Syrfëwr Siartredig RICS. Dylai'r prisiad hwn nodi gwerth presennol yr eiddo ar y farchnad agored er mwyn sicrhau ei fod wedi'i brynu ar werth y farchnad
- disgwylir fod y pris y cytunir arno o fewn 10% o werth yr eiddo, fel y nodir yn yr adroddiad prisio a gafwyd.
- angen ei adnewyddu er mwyn ei wneud yn gynnes, yn saff ac yn ddiogel.
- rhaid i’r eiddo fod ym Mand Treth y Cyngor A i D.
- Ni chaniateir talu blaendal o fwy na 25% o’r pris prynu.
Meini prawf cymhwyso ar gyfer ymgeiswyr
Rhaid i ymgeiswyr fod yn brynwyr am y tro cyntaf erioed
(Prynwr/prynwyr am y tro cyntaf erioed yw pobl nad ydynt erioed wedi bod yn berchen ar eiddo yn y gorffennol, ar eu pen eu hunain neu fel cwpwl.)
Rhaid i ymgeiswyr fod â chysylltiad lleol
Mae cysylltiad lleol yn golygu bod yr ymgeisydd, neu o leiaf un o’r ymgeiswyr wedi:
- byw neu weithio ar Ynys Môn am gyfnod parhaus o 5 mlynedd neu fwy yn union cyn cyflwyno’r cais, neu
- wedi byw ar Ynys Môn am gyfnod parhaus o 5 mlynedd neu fwy rhywbryd yn y gorffennol
Bydd ceisiadau/ymgeiswyr yn cael eu hasesu’n ariannol i sicrhau bod ganddynt angen am dŷ fforddiadwy.
(Mae’r broses lawn, gan gynnwys y wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i ymgeisio, ynghyd â’r meini prawf cymhwyso, i’w gweld yn Atodiad A ar y tudalen yma).
Gwaith cymwys
Bydd y cyngor yn cynnal archwiliad o’r eiddo a rhaid cytuno ar waith cymwys cyn y gellir cyflwyno cais.
Gall unrhyw waith a wneir cyn i’r cartref gael ei asesu gan y cyngor i benderfynu ar y gwaith sy’n gymwys i dderbyn grant, eich datgymhwyso rhag gwneud cais a bydd rhaid i chi dalu am unrhyw waith a wneir cyn i’ch cais gael ei gymeradwyo.
Gellir ystyried mân waith ail-gyflunio mewnol er mwyn cwrdd â safonau byw modern, yn amodol ar gyflwyno cais am ganiatâd rheoli adeiladu.
Amodau grant sylfaenol
- Rhaid i ymgeiswyr fyw yn yr eiddo am o leiaf 5 mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith.
- Bydd y grant yn cael ei ddiogelu fel cyfyngiad am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad cwblhau’r gwaith a bydd rhaid ad-dalu’r grant, yn llawn, os nad yw’r ymgeisydd yn byw yn yr eiddo a rhaid ei ad-dalu yn llawn pe na fyddai’r ymgeisydd yn byw yn yr eiddo ac/neu’n gwerthu’r eiddo cyn diwedd y cyfnod o bum mlynedd.
- Y grant mwyaf sydd ar gael yw £25,000 ond bydd swm y grant a ddyfernir yn dibynnu ar lefel y gwaith sydd angen ei wneud.
- Os nad yw’r grant yn ddigon i dalu am gost lawn y gwaith, bydd angen i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i ddangos bod ganddynt ddigon o arian i dalu gweddill y gost.
- Cyngor Sir Ynys Môn fydd yn penderfynu ac yn blaenoriaethu’r gwaith cymwys sydd ei angen. Telir y grant ar ôl cwblhau pob cam elfennol o’r gwaith yn uniongyrchol i’r contractwyr.
- Ni fydd unrhyw eiddo sydd i'w ymestyn fel rhan o'r broses adnewyddu yn gymwys ar gyfer unrhyw gymorth grant.
Cyswllt
Unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’r cynllun cysylltwch a:
Swyddog Tai Gwag
Gwasanaethau Tai
Cyngor Sir Ynys Môn
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn: 01248 752301 neu 01248 752283
E-bost: swyddogtaigwag@ynysmon.llyw.cymru