Rhaid i landlordiaid, asiantiaid gosod tai neu Awdurdodau Lleol roi gwybod i Dŵr Cymru am y tenantiaid sydd yn eu heiddo o fewn 21 diwrnod o’r dyddiad y byddant yn symud i mewn i’r eiddo.
Oni fyddir yn gwneud hynny, gall y landlord fod yn gyfrifol yn unigol ac ar y cyd gyda’r tenant am unrhyw ffioedd dŵr a charthffosiaeth nad ydynt wedi eu talu.
Bydd angen i landlordiaid anfon manylion at Dŵr Cymru yn cynnwys cyfeiriad yr eiddo, dyddiad cychwyn a theitl y denantiaeth, enw a dyddiad geni’r holl breswylwyr sy’n oedolion. Gallant ymgeisio ar-lein a gall landlordiaid gofrestru manylion ar wefan arbennig
Gweler y manylion llawn ar wefan Dŵr Cymru.