Y cynllun
Mae cydgyfnewid yn ffordd i denantiaid tai cymdeithasol symud drwy gyfnewid cartrefi gyda deiliad contract tai cymdeithasol arall.
Gallwch gyfnewid cartref ag unrhyw deiliaid contract cyngor neu gymdeithas tai yn y Deyrnas Unedig ar yr amod bod gennych chi a nhw yr hawl i gydgyfnewid a bod y ddwy ochr yn dymuno gwneud hynny.
Gallwch un ai gyfnewid cartref ag un deiliaid contract neu fe allech geisio dod o hyd i gyfnewidfa rhwng nifer o dai.
Dim cyfyngiad i'r gadwyn (cyfnewid aml-gartref)
Does dim cyfyngiad ar faint o bobl y gallwch eu cael yn eich cadwyn cyfnewid tai, fodd bynnag, y mwyaf o bobl yn y gadwyn gyfnewid tai, y mwyaf cymhleth y gall pethau fod ac mae yna bosibilrwydd bob amser y gallai rhywun yn y gadwyn newid eu meddyliau.
Fodd bynnag, mae cyfnewid rhwng mwy o bobl yn dod yn fwyfwy poblogaidd gan eu bod yn rhoi mwy o ffyrdd i chi gael yr eiddo yr ydych yn dymuno ei gael. Felly, peidiwch â’i ddiystyru oherwydd eich bod yn meddwl y bydd yn anoddach.
Dod o hyd i rywun i gyfnewid cartrefi ag ef
Siaradwch â ffrindiau a theulu
Un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o ddod o hyd i rywun i gyfnewid â nhw yn lleol yw drwy siarad â phobl. Siaradwch â’ch ffrindiau a’ch teulu - efallai y byddant yn nabod rhywun sy’n dymuno cydgyfnewid.
Defnyddiwch wefan HomeSwapper
Ffordd dda o ddod o hyd i rywun i gyfnewid â nhw yw drwy hysbysebu eich eiddo ar wefan gyfnewid bwrpasol.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn a landlordiaid partner wedi cofrestru â HomeSwapper.
Drwy ddefnyddio HomeSwapper gallwch hysbysebu eich cartref i’w gyfnewid am ddim.
Cofrestrwch eich cartref gyda HomeSwapper (yn Saesneg)
Bydd hysbysebion pobl sy’n cynnwys lluniau yn cael mwy o sylw
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cymaint o luniau o’ch cartref â phosib er mwyn cael y cyfle gorau o ddod o hyd i rywun.
Ar ôl i chi ddod o hyd i rywun i gyfnewid cartrefi ag ef
Bydd angen i chi gysylltu â'ch landlord unwaith y byddwch wedi dod o hyd i rywun i gyfnewid cartref ag efLandlordiaid tai cymdeithasol.
Cyngor Sir Ynys Môn
Ffôn: 01248 752 200
E-bost: adrantai@ynysmon.llyw.cymru
Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122
E-bost: post@grwpcynefin.org
Clwyd Alyn
Ffôn: 0800 183 5757
E-bost: help@clwydalyn.co.uk
Tai Gogledd Cymru
Ffôn: 01492 572 727
E-bost: customerservices@nwha.org.uk