Cyngor Sir Ynys Môn

Trawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar


Taith i Saith logoSefydlwyd Cynllun Trawsnewid Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar i gydlynu, cyfarwyddo a goruchwylio datblygiad system ymatebol fwy cydgysylltiedig sy’n sicrhau darpariaeth gyson sy’n cael ei harwain gan anghenion ar gyfer holl blant Cymru.

Mae’r chwe awdurdod lleol ar gyfer Gogledd Cymru yn cydweithio i rannu datblygiadau a dysgu am yr hyn sy’n digwydd yn lleol a’r hyn y gellir ei wneud yn rhanbarthol. 

Ein nodau

  • Creu system Blynyddoedd Cynnar i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gydlynol, integredig ac amserol.
  • I gefnogi partneriaid lleol i ail-ffurfweddu gwasanaethau blynyddoedd cynnar gan ganolbwyntio ar gynllunio, comisiynu, nodi a mynd i'r afael ag anghenion.
  • Trwy'r broses hon i nodi rhwystrau i integreiddio a ffyrdd i'w symud, eu lleihau neu eu rhesymoli.

O fis Chwefror 2022 ymlaen, cynhaliwyd proses ymgynghori gyda rhieni, plant a gweithlu lleol er mwyn bod o gymorth i greu a hyrwyddo gwell gwasanaethau yn y sector Blynyddoedd Cynnar ar Ynys Môn.

Roeddem hefyd am gael gwell dealltwriaeth o'r agweddau a'r profiadau cyfredol ochr yn ochr ag unrhyw argymhellion y gallai rhai a gymerodd ran fod eisiau eu rhannu. Roedd y broses ymgynghori’n canolbwyntio’n bennaf ar y camau datblygu craidd a ganlyn:

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.