Cyngor Sir Ynys Môn

Pobl ifanc yn gadael gofal


Waeth beth yr ydych yn dymuno ei wneud ar ôl gadael gofal, bellach mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnig cymorth a chefnogaeth i chi gyflawni eich nod mewn bywyd.

Er mwyn gwneud a chyflawni pethau yn eich bywyd, bydd angen i chi wneud y penderfyniadau sy’n iawn i chi. Efallai bod gennych syniad o ba fath o swydd neu yrfa sy’n apelio atoch. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd angen i chi wneud penderfyniadau ynghylch pethau megis: 

  • mynd i goleg
  • gadael ysgol
  • rhywle i fyw
  • cofrestru gyda meddyg

Hefyd bydd gennych obeithion a dyheadau y  byddwch yn dymuno eu gwireddu yn y dyfodol. Efallai y byddent yn cynnwys:

  • dysgu gyrru 
  • ennill cymwysterau a dysgu sgiliau 
  • dod o hyd i waith ac ennill cyflog
  • cael ty eich hun

Mae’r Ddeddf Gadael Gofal  yn cydnabod bod pobl ifanc yn gyffredinol, gan gynnwys pobl  mewn gofal, angen cefnogaeth i’w cynorthwyo ar eu taith trwy fywyd. O hyn ymlaen bydd pobl ifanc sy’n gadael gofal yn cael y gefnogaeth honno.

Yn fuan ar ôl eich pen blwydd yn bymtheg byddwch yn cyfarfod â’ch Gweithiwr Ôl-Ofal a fydd yn aelod o Dîm Plant a Theuluoedd Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn. Gallwch ofyn i rywun arall fod yn gynghorydd i chi ond, pwy bynnag a gaiff ei benodi, bydd yn eich annog i barhau i dderbyn cefnogaeth ffrindiau ac oedolion eraill yr ydych yn eu hadnabod.

Rôl y gweithiwr fydd gwrando ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud a bod yn gyswllt swyddogol i ba bynnag gymorth a chefnogaeth yr ydych ei angen i wneud penderfyniadau am eich dyfodol.

Os ydych yn dymuno rhagor o wybodaeth gallwch siarad â’ch Gweithiwr Cymdeithasol, Gofalwr Maeth neu’r Tîm Ôl-Ofal y Gwasanaethau Cymdeithasol neu wrth galw un o swyddogion Teulu Mon.