Cyngor Sir Ynys Môn

Llysiau'r Dial


Japanese knotweedGall Llysiau’r Dial dyfu’n wyllt a pheri difrod i adeiladau ac arwynebau caled. Unwaith mae wedi sefydlu gall fod yn anodd iawn ei reoli.

 

Mae’r Adain Iechyd yr Amgylchedd yn derbyn ymholiadau yn aml ynglŷn â Llysiau’r Dial ac er ei fod yn achosi problemau, nid yw’n peri unrhyw fygythiad i iechyd y cyhoedd. Mae rheoli llysiau’r dial yn gyfrifoldeb i berchennog/deilydd yr eiddo.

Japanese knotweedNid oes rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i gael gwared ar, neu reoli llysiau’r dial yn eich gardd, fodd bynnag pe baech yn gadael i lysiau’r dial dyfu i eiddo pobl eraill, gallech gael eich erlyn.

Mae’n drosedd plannu neu achosi i lysiau’r dial ledaenu yn y gwyllt dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a daw’r holl wastraff sy’n cynnwys llysiau’r dial dan reolaeth Rhan II Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Ni ellir cael gwared ar lysiau’r dial yn y ffordd arferol. Ni chewch gael gwared arno trwy’r biniau gwastraff gardd. Mae’n rhaid ei drin fel gwastraff a reolir ac mae angen dogfennau trosglwyddo gwastraff. Dim ond safleoedd tirlenwi sydd wedi eu trwyddedu all ei dderbyn.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru dudalen we defnyddiol sy’n cynnwys gwybodaeth ar sut i atal llysiau’r dial rhag lledaenu a rheoli problem llysiau’r dial ynghyd â chael gwared arno’n gywir.

Caiff dolenni eraill all fod yn ddefnyddiol eu rhestru isod (ar gael yn Saesneg yn unig).

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.