Daw REACH (Registration, Evaluation, Authorisation and restriction of Chemicals) i rym dan Reoliadau Gorfodi REACH 2008, OS 2852.
Bellach, swyddogaeth fechan iawn sydd gan awdurdodau lleol o ran gorfodi REACH lle mae sefydliad rhan A2 neu B:
- yn gwneuthur cemegolyn perthnasol ar gyfer ei ddefnydd ei hun neu i’w gyflenwi i eraill, neu yn
- defnyddio cemegolyn perthnasol ar lefelau sy’n uwch na’r trothwyon penodedig.
Rhoddwyd y swyddogaeth hon i awdurdodau fel mesur rheoleiddio gwell: i leihau’r graddau y mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd swyddogaeth hefyd mewn sefydliadau A2 a B sy’n cael eu rheoleiddio.
Yn arbennig felly, nid oes unrhyw ddisgwyliad y bydd awdurdodau nail ai’n
- nodi sefydliadau A2 a B sy’n gwneuthur cemegolion REACH neu rai sy’n defnyddio mwy nag un dunnell o gemegolion o’r fath, neu’n
- siecio taflenni data sefydliadau A2 a B am wybodaeth sy’n gysylltiedig â REACH.
Er gwaethaf yr uchod, cydnabyddir y gall awdurdodau lleol fod yn werthfawr o safbwynt cefnogi Asiantaeth yr Amgylchedd, gan gynnwys cael gwybodaeth am safleoedd risg uchel a thrafod camau gweithredu.
Dylai gweithredwyr sefydliadau A2 a B siecio gyda’u cyflenwyr cemegolion i weld a yw’r cemegolion y maent yn eu defnyddio wedi’u cynnwys dan REACH. Dylai’r cyflenwr fedru darparu naill ai rhif cyn cofrestru neu rif cofrestru lle mae hynny’n berthnasol. Unwaith y bydd cemegolyn wedi’i gofrestru, dylai’r rhif cofrestru ymddangos ar y taflenni data diogelwch.
Os yw sefydliad Rhan A2 neu B yn defnyddio cemegolyn sydd wedi’i gynnwys dan REACH, caiff ei ddisgrifio fel defnyddiwr “downstream”. Y prif ofyniad ar y defnyddwyr hyn fydd paratoi adroddiad diogelwch cemegolion, ond dim ond os yw’r sefydliad yn defnyddio 1 tunnell neu ragor o’r cemegolyn bob blwyddyn.
Mae’n annhebygol iawn y bydd unrhyw sefydliad A2 neu B yn gwneuthur unrhyw gemegolion sydd wedi’u cynnwys dan REACH.
Mae nifer o daflenni ac ynddynt ganllawiau byr wedi’u teilwrio i wahanol agweddau o REACH i’w gweld yma ar safle We yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (AGID).