Cyngor Sir Ynys Môn

Angladd iechyd cyhoeddus


Beth yw angladd iechyd cyhoeddus?

Mae adran 46 Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydon) 1984(1) yn rhoi rheidrwydd ar yr awdurdod lleol i drefnu claddedigaeth neu amlosgiad i berson sydd wedi marw neu berson y daethpwyd o hyd iddo wedi marw yn ei ardal os ymddengys nad oes unrhyw berthnasau neu ffrindiau sy’n fodlon gwneud trefniadau addas. Nid yw hyn yn berthnasol i rywun sy’n marw yn yr ysbyty neu mewn ambiwlans ar y ffordd i’r ysbyty, gan fod hynny’n gyfrifoldeb i’r Ymddiriedolaeth GIG perthnasol.

Mae adran 46 Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydon) 1984(1) yn rhoi rheidrwydd ar yr awdurdod lleol i drefnu claddedigaeth neu amlosgiad i berson sydd wedi marw neu berson y daethpwyd o hyd iddo wedi marw yn ei ardal os ymddengys nad oes unrhyw berthnasau neu ffrindiau sy’n fodlon gwneud trefniadau addas. Nid yw hyn yn berthnasol i rywun sy’n marw yn yr ysbyty neu mewn ambiwlans ar y ffordd i’r ysbyty, gan fod hynny’n gyfrifoldeb i’r Ymddiriedolaeth GIG perthnasol.

Bydd y Crwner fel arfer yn rhoi gwybod i’r Cyngor pan fo rhywun wedi marw a phan na wyddys am unrhyw asiantaeth / personau sy’n gwneud trefniadau addas i gladdu / amlosgi’r corff.

Bydd y Cyngor yn ceisio ei orau i wneud ymdrechion rhesymol i gysylltu â theulu agosaf a ffrindiau’r person sydd wedi marw, ond fel arfer bydd yn rhoi hysbysiad yn y wasg neu’n defnyddio asiantaeth. Efallai y bydd yr ymgymerwr perthnasol sydd yng ngofal yr angladd iechyd cyhoeddus (neu ffrindiau) yn dewis gwneud eu trefniadau annibynnol eu hunain (e.e. rhoi hysbysiad yn y papur newydd neu gymryd camau i roi hysbysiad ar eu gwefan eu hunain) os dymunant.

Bydd swyddog o’r Adain Iechyd yr Amgylchedd fel arfer yn cofrestru’r farwolaeth ac yn ymweld â chartref y person sydd wedi marw er mwyn chwilio yn yr eiddo am fanylion aelodau’r teulu (e.e. Llyfrau cyfeiriad), Ewyllys ac unrhyw wybodaeth ariannol i gynorthwyo i adennill costau’r angladd. Os llwyddir i ddod o hyd i aelodau teulu, byddai’r Cyngor fel arfer yn disgwyl iddynt gymryd drosodd y trefniadau angenrheidiol a/neu dalu am yr angladd. Yn yr un modd, os daw o hyd i Ewyllys, bydd yr ysgutor yn gyfrifol am drefnu’r angladd.

Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i Landlord yr unigolyn, ei fanc a’r Asiantaeth Budd-daliadau am farwolaeth y person a bydd yn ceisio adennill holl gostau neu rai o gostau’r angladd o asedau’r person sydd wedi marw e.e. arian a ganfyddir yng nghartref y person, arian yn ei gyfrif(on) banc, polisïau yswiriant, cynlluniau angladd neu o werthu nwyddau y deuir o hyd iddynt yn yr eiddo. Mewn achosion o’r fath, ni ddylid symud unrhyw eitemau o werth o gartref y person sydd wedi marw hyd nes bod y Cyngor wedi chwilio’r eiddo. Os yw unigolyn yn symud eitemau o werth o gartref y person sydd wedi marw (e.e. ceir y talwyd amdanynt yn llawn), mae’n bosib y bydd y Cyngor yn ceisio adennill holl gostau neu rai o gostau’r angladd gan yr unigolyn hwnnw.

Bydd y Cyngor yn ceisio cael tri dyfynbris gan ymgymerwyr angladdau yng nghyffiniau lle’r oedd y person yn byw ddiwethaf ar yr ynys. Ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw gost a ddaw i ran yr ymgymerwr angladdau cyn ei benodi’n ffurfiol. Mewn amgylchiadau eithriadol, pan fo’r person sydd wedi marw eisoes yng ngofal ymgymerwr angladdau cyn i’r Cyngor ddod yn rhan o’r broses, gall y Cyngor (yn ôl ei ddewis ei hun) ofyn am ddyfynbris gan yr ymgymerwr hwn a dau ymgymerwr angladdau arall, gan benodi’n seiliedig ar y gwerth gorau. Os penodir ymgymerwr gwahanol, mae’n rhaid gwneud trefniadau i ryddhau’r corff i’r ymgymerwr angladdau a benodwyd.

Os oedd y person yn byw mewn llety rhent, unwaith mae’r Cyngor yn fodlon nad oes unrhyw eitemau o werth, dylai’r landlord gymryd y cyfrifoldeb am glirio’r eiddo ar ei gost ei hun. Yn yr un modd, os oedd y person yn byw mewn cartref gofal / nyrsio, y cartref fyddai’n gyfrifol am gael gwared ar eiddo’r person.

Os oes asedau’n weddill unwaith mae costau’r angladd wedi cael eu talu, bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i Adran Cyfreithiwr y Trysorlys

Mae gan y Cyngor yr hawl i adennill costau’r angladd o stad y person sydd wedi marw, ar ffurf dyled sifil o fewn tair blynedd.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Mae gwybodaeth bersonol megis:-

i) Enwau llawn y sawl sydd wedi marw

ii Dyddiad geni y sawl sydd wedi marw

iii) Dyddiad marwolaeth y sawl sydd wedi marw

iv) Dyddiad Angladd y sawl sydd wedi marw

v) Cyfeiriad hysbys diwethaf y sawl sydd wedi marw

yn eithriedig dan Adran 41(1) y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gan y rhoddwyd y wybodaeth yn gyfrinachol i ni gan unigolion, ac felly caiff y wybodaeth ei dal yn ôl. Ymhellach i hyn, rydym wedi derbyn cadarnhad gan y Tribiwnlys Gwybodaeth fod y ddyletswydd o gyfrinachedd yn parhau ar ôl marwolaeth unigolyn y mae’r ddyletswydd honno’n ddyledus iddo.

Mae Adran Cyfreithiwr y Trysorlys yn gweinyddu stadau unigolion sydd wedi marw heb unrhyw berthnasau, nac Ewyllys. Mae Adran Cyfreithiwr y Trysorlys yn cyhoeddi stadau a brisiwyd sydd werth dros £5000.

Os ydych yn anfodlon gydag unrhyw agwedd o ymateb i’ch cais am wybodaeth, a / neu’r penderfyniad a wnaed i ddal gwybodaeth yn ôl, gallwch ofyn am adolygiad mewnol. Anfonwch eich gohebiaeth os gwelwch yn dda at Y Swyddog Gofal Cwsmer, Gwasanaethau Cyfreithiol, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW 

Os ydych yn anfodlon gyda chanlyniad unrhyw adolygiad mewnol mae gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow SK9 5AF.

Nodwch os gwelwch yn dda y bydd y Comisiynydd Gwybodaeth yn disgwyl bod y gweithdrefnau adolygu mewnol wedi cael eu defnyddio’n llwyr cyn iddo ddechrau ei ymchwiliad.

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydon) 1984 

i
Angladdau iechyd cyhoeddus ar Ynys Môn ers Ebrill 2014
BlwyddynRhifRhywProffil Oed
2015/2016 2 Gwryw 70-79
2016/2017 1 Gwryw 60-69
2017/2018 1 Benyw 70-79
2018/2019 1 Gwryw 60-69
2018/2019 1 Benyw 70-79
2018/2019 1 Gwryw 70-79
2019/2020 1 Benyw 40-49
2019/2020 2 Gwryw 70-79
2019/2020 1 Gwryw 60-69
2019/2020 1 Gwryw 50-59
2019/2020 1 Gwryw 40-49
2019/2020 1 Gwryw 50-59
2019/2020 1 Benyw 70-79
2020/2021 1 Benyw 80-89
2020/2021 1 Gwryw 60-69
2021/2022 0 N/A N/A
2022/2023 1 Gwryw 70-79
2022/2023 1 Benyw 80-89
2023/2024 1 Gwryw 70-79
2023/2024 1 Gwryw 80-89
2023/2024 1 Gwryw 50-59
2023/2024 1 Benyw 60-69
2023/2024 1 Gwryw 60-69


Diweddarwyd: Ebrill 2024