Ddim eisiau ymrwymo i ddebyd uniongyrchol?
Beth am roi cynnig ar ein aelodaeth cerdyn hamdden blynyddol.
Mae hyn yn prynu cerdyn hamdden (12 mis parhaol) er mwyn derbyn hyd at 25% o ostyngiad ar ffioedd mynediad. Gellir defnyddio'r cerdyn yn unrhyw un o ganolfannau hamdden yr ynys.
- Oedolyn (18 i 59) £22
- Oedolion dros 60 £14
- Plant a phobl ifanc (hyd at 17) £8.50
- Di-waith (am 3 mis) £ 5.50
- Timau, grwpiau a clybiau £ 75
Am aelodaeth cerdyn hamdden blynyddol, lawrlwythwch y ffurflen gais aelodaeth isod neu ymwelwch ag un o'n canolfannau hamdden.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.