Cyngor Sir Ynys Môn

Ffurflen gais: Cerdyn Aur Gogledd Cymru


Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am Gerdyn Aur Gogledd Cymru.

Er mwyn gwneud cais rhaid i chi:

  • gwiriwch i sicrhau eich bod yn bodloni’r meini prawf – dilynwch y ddolen ar y chwith “Ydw i’n gymwys?”
  • printiwch a llenwch i mewn y ffurflen gais ar waelod y dudalen hon 

Mae’n rhaid i’r ffurflen gais gael ei llofnodi gan y swyddog datblygu rhanbarthol neu gan swyddog datblygu chwaraeon penodol corff llywodraethu cenedlaethol eich chwaraeon (NGB).

Gwnewch yn siwr bod eich cais yn cynnwys:

  • copïau o lythyrau yn eich gwahodd i ymuno â sgwad neu dystiolaeth gefnogol eraill o’ch cyraeddiadau
  • dau lun pasport
  • siec am £5. (sieciau’n daliadwy i ‘Cyngor Sir Ynys Môn’)

Bydd ceisiadau sydd heb gael eu llenwi’n iawn yn cael eu hanfon yn ôl atoch er mwyn i chi allu darparu’r wybodaeth i gyd. Gall gymryd hyd at un mis i brosesu cais.  Os bydd y meini prawf perthnasol yn cael eu bodloni, bydd cerdyn yn cael ei gyhoeddi.

Cyngor a chanllawiau:

Bydd y wybodaeth ar y tudalennau hyn yn eich helpu chi i gwblhau’r ffurflen gais. Cofiwch ofyn yr Uned Datblygu Chwaraeon a ydych angen cymorth i lenwi’r ffurflen .

Sut i gyflwyno eich cais:

Dychwelwch eich ffurflen, siec a dogfennau eraill:

  • trwy’r post at: Uned Datblygu Chwaraeon, Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni. LL77 7QX.
  • mewn person wrth dderbynfa Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

Deddf Diogelu Data 1998

Mae pob sir yn gyfrifol am reoli data at ddibenion y ddeddf hon. Bydd yr wybodaeth ar y ffurflen hon yn cael ei defnyddio at ddibenion Gwasanaethau Cerdyn Aur Gogledd Cymru a gwasanaethau hamdden y sir. Gellir ei datgelu i adrannau eraill o fewn y 6 chyngor ac asiantaethau perthnasol eraill yn unol â chofrestriad pob cyngor o dan y ddeddf.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.