Cyngor Sir Ynys Môn

Cerdyn Aur Gogledd Cymru - ydw i'n gymwys?


Beth yw’r meini prawf cymhwyster?

  1. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fyw yn un o chwe sir Gogledd Cymru (Sir Fôn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd neu Wrecsam).
  2. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn aelod cyfredol o sgwad genedlaethol Corff Llywodraethu Chwaraeon Cymraeg. Mae’n rhaid cefnogi hyn drwy ddarparu copïau o lythyrau yn eich gwahodd i ymuno â’r sgwad.
  3. Mae’n rhaid i ymgeiswyr nad oes gan eu chwaraeon gystadlaethau rhyngwladol a/neu sy’n cystadlu fel unigolyn, fod wedi gorffen yn gyntaf, ail neu’n drydydd mewn pencampwriaeth Cymraeg, wedi’i drefnu gan gorff llywodraethu cenedlaethol y chwaraeon (ON nid cystadlaethau’r Urdd na chystadlaethau ysgolion cenedlaethol) yn ystod y 12 mis diwethaf.
  4. Mae’n rhaid i golffwyr talentog fod yn aelod cyfredol o Sgwad Cenedlaethol Undeb Golff Cymru i gael mynediad i glybiau golff. (Rhaid iddynt hefyd fod yn aelod o unrhyw glwb golff yng Ngogledd Cymru).
  5. Mae’n rhaid bod corff llywodraethu eich chwaraeon yn cael ei gydnabod gan Gyngor Chwaraeon Cymru.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.