Cyngor Sir Ynys Môn

Beth yw manteision meddu ar Gerdyn Aur Gogledd Cymru?


1. Mynediad am ddim i gyfleusterau canolfannau hamdden chwe cyngor sir Gogledd Cymru.

2. Mynediad am ddim i gyfleusterau hamdden prifysgolion a cholegau Gogledd Cymru.

3. Pan fyddwch yn cynhyrchu rhaglen hyfforddi ddilys (wedi’i lofnodi gan swyddog o’r corff llywodraethu cenedlaethol) byddwch yn cael mynediad i’r gweithgareddau canlynol:

  • nofio
  • ystafelloedd ffitrwydd / ystafelloedd pwysau
  • dosbarthiadau ffitrwydd
  • traciau athletau awyr agored

gweithgaredd sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’ch chwaraeon (ee chwaraewr sboncen = cyrtiau sboncen)

4. Mynediad am ddim i Ganolfan Athletau Dan Do Gogledd Cymru yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy i bobl sy’n meddu ar gerdyn aur ac sy’n cystadlu mewn athletau.

5. Mynediad am ddim i rai clybiau golff i golffwyr elitaidd

6. Gweithdai ffordd o fyw am ddim a gostyngiadau gan rai cyflenwyr offer a dillad.