Cyngor Sir Ynys Môn

Taliadau uniongyrchol


Ydych chi eisiau bod yn gyfrifol am eich bywyd eich hun a rheoli eich pecyn gofal eich hun?

Ydych chi’n dymuno dewis pwy sy’n darparu eich gofal a chymorth a hynny ar amser sy’n gyfleus i chi?

Os ydych chi wedi ateb ydw i’r cwestiynau hyn; efallai mai taliadau uniongyrchol yw’r ateb i chi.

‘Eich bywyd chi yn eich dwylo chi’

Wrth benderfynu pa becyn gofal sydd orau i chi, mae’r opsiwn Taliad Uniongyrchol yn caniatáu i chi greu cynllun cymorth a gofal unigryw sy’n addas i’ch bywyd bob dydd.

Os ydych yn gymwys i dderbyn cymorth i gwrdd â’ch anghenion gofal, gall Cyngor Sir Ynys Môn roi arian i chi yn hytrach na gwasanaeth.

Mae derbyn Taliad Uniongyrchol yn benderfyniad personol a fydd, gobeithio, yn eich cynorthwyo i wella eich ansawdd bywyd.

Mae ein gwasanaeth cymorth yn ymrwymedig i ddarparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar bobl debyg i chi.

Prif nod taliad uniongyrchol yw hyrwyddo eich llais, dewis a’ch rheolaeth chi trwy roi’r grym i chi fod yn annibynnol.

Manteision dewis taliad uniongyrchol:

  • Cewch ddewis pwy sy’n darparu eich gofal a’ch cymorth.
  • Chi sy’n dewis pryd fydd eich gofal yn cael ei ddarparu i weddu eich bywyd bob dydd.
  • Mae taliadau uniongyrchol yn hyblyg er mwyn diwallu eich anghenion unigol.

Mae ein tîm taliadau uniongyrchol yn ymrwymedig i ddarparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gychwyn ar eich taith taliadau uniongyrchol.

Cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir isod.

Mae taliadau uniongyrchol yn addas ar gyfer ystod eang o unigolion sydd, ar ôl cael eu hasesu, yn gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, yn cynnwys:

  • oedolion o unrhyw oedran sydd ag angen cymorth a gofal cymwys
  • gofalwyr 16 oed neu hŷn sydd angen cymorth
  • pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant am blentyn anabl

I fod yn gymwys i dderbyn taliadau uniongyrchol, bydd rhaid asesu angen yr unigolyn sydd angen cymorth, a bydd asesiad ariannol pellach yn cael ei gynnal ar unrhyw unigolion dros 18 oed i asesu unrhyw gyfraniad tuag at eich pecyn gofal a chymorth.

Pan fyddwch yn derbyn taliad uniongyrchol bydd angen i chi naill ai sefydlu cyfrif banc newydd fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer costau’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol yn unig, neu gofrestru ar gyfrif wedi ei reoli.

Gall cyfrif taliad uniongyrchol wedi’i reoli fod o gymorth i rai pobl, er enghraifft, os:

  • nad oes gennych amser i reoli agwedd ariannol eich taliadau uniongyrchol
  • byddai’n well gennych i un o’n darparwyr cymeradwy dderbyn y cyfrifoldeb ariannol

Yn ôl yr arfer, rydym bob amser yn hapus i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau ac os ydych yn dymuno derbyn gwybodaeth bellach ynglŷn â hyn mae croeso i chi gysylltu â’r swyddog taliadau uniongyrchol ar y rhif ffôn (01248) 752 752.

Mae cynorthwyydd personol yn berson y gellir ei gyflogi gan ddefnyddio taliad uniongyrchol i gynorthwyo i ddiwallu eich anghenion gofal a llesiant. Gall rôl cynorthwywyr personol amrywio yn ôl yr anghenion.

Rôl cynorthwyydd personol

  • Hyrwyddo annibyniaeth.
  • Cynorthwyo unigolion gyda gofal a chymorth personol.
  • Cefnogi unigolion i gael mynediad i’r gymuned.

Mae’n bosib i chi gyflogi aelod o’ch teulu, neu ffrind, fel cynorthwyydd personol, cyn belled â bod y cynorthwyydd personol yn byw ar aelwyd wahanol. Bydd pob cynorthwyydd personol yn derbyn cymorth i:

  • gymryd rhan mewn hyfforddiant gorfodol
  • derbyn gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) cyfredol a throsglwyddadwy

Cyflogi eich cynorthwyydd personol eich hun

Os ydych yn penderfynu mai’r opsiwn gorau i chi yw cyflogi eich cynorthwyydd personol eich hun gan ddefnyddio eich taliadau uniongyrchol, bydd ein gwasanaeth cefnogi yn rhoi arweiniad i chi ar:

  • recriwtio
  • hyfforddiant a DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
  • yswiriant
  • rheoli gweithwyr
  • darparu templedi dogfennau
  • iechyd a diogelwch

Os bydd angen cymorth arnoch, gall ein tîm eich cynorthwyo gydag unrhyw un o’r uchod.

Bod yn gynorthwyydd personol

Cadwch lygaid am rai swyddi taliadau uniongyrchol sy’n cael eu hysbysebu ar lwyfannau cymdeithasol yr awdurdod lleol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am y cynllun, mae nifer o wahanol ffyrdd i chi gysylltu â ni.

Rhif ffôn

01248 751 935

E-bost

taliadauuniongyrchol@ynysmon.llyw.cymru

Cyfeiriad

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

 

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.