Cyngor Sir Ynys Môn

Gwasanaethau gofal a gofal dydd


Mae gwasanaethau gofal cartref a gofal dydd fel arfer yn wasanaethau ar gyfer pobl yr aseswyd bod angen cymorth ychwanegol arnynt tra'n byw yn eu cartrefi eu hunain.

Er enghraifft, gallech fynychu canolfan ddydd neu efallai y byddwch yn cael cymorth yn eich cartref gyda thasgau personol fel ymolchi a gwisgo.

Mae rhai o'r gwasanaethau a ddarperir gan Cyngor Sir Ynys Môn ar gael am ddim, gan gynnwys asesiad, gwybodaeth a chyngor.

Yn ogystal, nid ydym yn codi tâl am gludiant i fynychu canolfan ddydd lle caiff y gwasanaeth ei ddarparu gan y cyngor a ble mae’r cludiant hwnnw wedi ei gynnwys yn yr asesiad o’ch anghenion.

O 1 Mai 2022, gofynnir i chi dalu uchafswm o £100 yr wythnos tuag at y gofal a gewch.

Fodd bynnag, oherwydd bod gallu person i dalu yn cael ei gymryd i ystyriaeth, efallai y bydd y swm gwirioneddol a dalwch yn is na £100 neu efallai na fydd unrhyw dâl o gwbl.

Byddwn yn eich gwahodd i gwblhau ffurflen asesiad ariannol fel y gallwn weithio allan yr hyn y mae'n rhaid i chi ei dalu. 

Pan fyddwch chi'n derbyn gofal dydd a gomisiynir gan Gyngor Sir Ynys Môn, bydd yn ofynnol i gyfrannu tuag at gost y bwyd a lluniaeth, os ydych yn dewis derbyn y rhain yn y canolfan gofal dydd.

Er mwyn canfod a ydych chi'n gymwys i gael gwasanaethau gofal cartref neu ofal dydd, dylech gysylltu â'n tîm dyletswydd ar 01248 750 057 opsiwn 2 er mwyn trefnu asesiad o'ch anghenion. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei gynnal gan weithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal.

Os yw wedi'i sefydlu bod angen gofal arnoch, bydd eich rheolwr gofal yn llunio cynllun gofal a chymorth sy'n nodi pa wasanaethau cymorth y byddwch yn eu derbyn. Yna byddwn yn gweithio allan y tâl am yr holl wasanaethau perthnasol yn eich cynllun gofal.

Na - nid yw'r taliadau'n berthnasol i:

  • wasanaethau a ddarperir i berson sydd dan 18 oed
  • wasanaethau a ddarperir i berson y mae Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn berthnasol iddo/iddi

Sylwch - nid yw hon yn rhestr gyflawn.

Os nad ydych wedi'ch eithrio rhag talu, byddwn yn eich gwahodd i gwblhau ffurflen asesiad ariannol. Mae'r ffurflen yn gofyn am wybodaeth am eich incwm, eich cyfalaf a'ch gwariant. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i ganfod a oes rhaid i chi dalu unrhyw beth tuag at y taliadau hyn.

Os oes angen help arnoch i lenwi'r ffurflen, cysylltwch â ni ar 01248 752 721 a byddwn yn trefnu i swyddog eich helpu i lenwi'r ffurflen dros y ffôn neu yn Swyddfa’r Sir.

Os byddwch yn dewis peidio â chwblhau'r ffurflen asesiad ariannol, bydd raid i chi dalu’r uchafswm, sef £100 yr wythnos.

Bydd angen i ni weld yr holl ddogfennau sy'n ymwneud â'ch manylion ariannol er mwyn cadarnhau bod y wybodaeth yn gywir.

Sicrhewch eich bod yn darparu'r holl ddogfennau perthnasol, er enghraifft:

  • Hawl i fudd-daliadau a dderbyniwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau e.e. pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth, Credyd Pensiwn neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
  • Pensiynau galwedigaethol / gwaith / preifat / personol.
  • Llyfrau Cynilion Banc, Cymdeithas Adeiladu, Swyddfa'r Post.
  • Datganiadau banc diweddar.
  • Llyfr rhent.

Gallwch anfon llungopïau o’r rhain gyda'ch ffurflen.

Fel arall, gallwn dderbyn gwybodaeth trwy e-bost.

Os oes gennych chi neu'ch cynrychiolydd ffôn neu dabled smart, gallwch tynnu luniau o’r hyn sydd ei angen i gefnogi'ch cais ac anfonwch nhw’n uniongyrchol drwy e-bost at scccyllid@ynysmon.gov.uk

Mae taliadau'n seiliedig ar eich gallu i dalu, felly bydd y swm y mae'n rhaid i bob person ei dalu yn wahanol.

I weithio allan eich tâl, rydym yn edrych ar eich incwm wythnosol, eich costau allan a'ch cyfalaf (cynilion a buddsoddiadau)

Nodyn: Mae polisi codi tâl Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnwys sicrwydd ynddo y bydd pob person sy'n derbyn gofal cartref neu ofal dydd yn cael ei adael gyda'r cymorth incwm sylfaenol neu hawl credyd pensiwn gwarantedig ynghyd â 45% ar ôl talu unrhyw daliadau.

Cyfalaf

Mae cyfalaf yn cynnwys arbedion a gedwir mewn cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu, tystysgrifau cynilo cenedlaethol, bondiau, PEP, TESSAs, ISAs a chyfranddaliadau. Gallant fod yn eich enw chi yn unig neu ar y cyd â rhywun arall.

Mae hefyd yn cynnwys eiddo neu dir yr ydych yn berchen arno, ar wahân i'ch cartref. Bydd y gwerth cyfalaf neu eich budd chi ynddo, os yw'n eiddo ar y cyd, hefyd yn cael ei gynnwys fel ased cyfalaf.

Llai na £24,000

Os asesir bod cyfalaf person yn is na’r ffigwr hwn, yna caiff ei anwybyddu yn yr asesiad.

Dros £ 24,000

Codir hyd at uchafswm o £100 ar gyfer y gwasanaeth os oes gan berson gyfalaf o £24,000 neu fwy.

Os oes gennych lai na £24,000 o gyfalaf

Os oes gennych lai na £24,000 o gyfalaf / cynilion, dylech chi ddweud wrthym a chwblhau ffurflen asesu ariannol.

Os yw'r Cyngor o'r farn bod rhywun wedi cael gwared ar gyfalaf / arbedion yn fwriadol er mwyn bod yn gymwys i gael help tuag at gostau gofal cartref / gofal dydd, byddant yn cael eu trin fel petai’r cyfalaf yn parhau i fod ganddynt. Mae hyn yn golygu na fyddant efallai yn derbyn cymorth ariannol ac y bydd yn rhaid iddynt dalu'r uchafswm o £100.00.

Incwm

Mae hyn yn cynnwys yr holl arian yr ydych yn ei gael yn rheolaidd, er enghraifft:

  • Pensiwn Ymddeoliad y Wladwriaeth, pensiynau galwedigaethol / gwaith neu bensiwn personol.
  • unrhyw fudd-daliadau gan y wladwriaeth, er enghraifft Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
  • blwydd-daliadau
  • incwm rhent a dderbynnir o eiddo rydych chi'n berchen arno.
  • taliadau cronfa ymddiriedolaeth.

Treuliau a ddiystyrir a ganiateir

Ar ôl adio eich incwm wythnosol at ei gilydd, caiff rhai symiau wedyn eu hanwybyddu. Y prif rai yw:

  • enillion
  • Credyd Treth Gwaith
  • Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
  • Elfen Symudedd y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Budd-dal plant
  • taliadau morgais, rhent neu dreth gyngor nad ydych yn derbyn cymorth ar eu cyfer
  • Pensiwn Rhyfel a Phensiwn Gweddwon Rhyfel
  • taliadau o'r Gronfa Byw'n Annibynnol

Pan fydd un ohonoch chi'n derbyn gofal cartref, fe fyddwch fel arfer yn cael cynnig asesiad ar y cyd gyda'ch partner.

Mae hyn yn golygu y byddwn yn ystyried cyfanswm yr incwm / gwariant / cyfalaf ar gyfer eich cartref. Byddwn wedyn yn cynnal asesiad unigol ac ar y cyd a byddwch yn talu’r isaf o’r ddau asesiad.

Os byddwch yn rhoi eich cynilion neu'ch tŷ i ffwrdd, ar ôl i chi gael eich hasesu eich bod angen gofal i gwrdd â'ch anghenion a bod gofal wedi cychwyn, byddwn yn trin y swm hwn fel cyfalaf tybiannol a bydd yn parhau i gael ei ystyried yn eich asesiad ariannol.

Felly, er enghraifft, os ydych wedi rhoi rhodd o £ 20,000 i berthynas a byddwn yn eich hasesu am gymorth ariannol, byddwn yn parhau i gyfrif y swm yma yn eich cynilion mewn asesiad ariannol.

Ystyrir bod unrhyw arian sy'n cael ei roi i eraill ar ôl y dyddiad dechreuodd eich gofal, yn swm a fyddai ac a ddylai fod ar gael i ariannu eich gofal.

Dyma rhai enghreifftiau o roddi eich asedau i ffwrdd:

  • Os ydych yn gwneud taliad i rhywun (e.e. anrheg).
  • Os ydych yn trosglwyddo gweithredoedd eiddo i rhywun arall.
  • Os ydych chi'n rhoi arian i mewn i gynnyrch ariannol arall a fyddai'n effeithio ar sut yr ydym yn ei drin pan fyddwn yn cyfrifo'ch tâl. Mae rhai enghreifftiau o hyn yn cynnwys sefydlu cronfa ymddiriedolaeth na ellir ei ganslo neu brynu bond buddsoddiad gyda sicrwydd bywyd.

Byddwn yn cadarnhau yn ysgrifenedig yr hyn y mae'n rhaid i chi ei dalu a byddwn yn rhoi manylion llawn o sut a ble y gallwch chi dalu.

Os byddwch wedi cwblhau ffurflen asesu ariannol, byddwn hefyd yn cynnwys copi o'r modd y cafodd yr asesiad ariannol ei weithio allan.

Gwiriwch y manylion incwm a ddefnyddiwyd a rhowch wybod i ni os ydych chi'n meddwl eu bod yn anghywir.

Gellir gwneud taliadau drwy nifer o wahanol ddulliau, gan gynnwys debyd uniongyrchol, siec neu cherdyn debyd.

Gallwch hefyd dalu ar-lein.

Talu ar-lein

Gallwch ofyn am adolygiad o'ch tâl os ydych chi’n credu ein bod wedi ei weithio allan yn anghywir.

Dylech wneud hyn yn ysgrifenedig i Uned Cyllid Cleient. Gweler y manylion cyswllt isod ar gyfer y cyfeiriad.

Byddwn yn gwirio'r asesiad ariannol ac os yw'n anghywir, byddwn yn ailasesu'r tâl ac yn eich cynghori yn unol â hynny. Os na fyddwn yn newid ein penderfyniad, byddwn yn rhoi esboniad manwl i chi o'n penderfyniad.

Uned Cyllid Cleient
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa’r Sir
Ynys Môn
LL77 7TW

Os ydych chi'n parhau i fod yn anhapus â chanlyniad yr adolygiad, gallwch wneud cwyn swyddogol i'r Cyngor.

Gallwch gysylltu â’n Swyddog Cwynion gyda chwyn, gair o ganmoliaeth neu sylwad ar sut i wella’r Gwasanaeth drwy gysylltu a:

Swyddog Cwynion Penodedig
Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd Y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

Ffôn: 01248 752 717

E-bost: cwyniongwascym@ynysmon.gov.uk

Gellir gofyn am gyngor ar fudd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau / Canolfan Gynghori .

Os bydd eich amgylchiadau wedi newid, mae'n ofynnol i chi ddweud wrth y Tîm Asesu Ariannol.

Mae'r newidiadau'n cynnwys:

  • Cynnydd / gostyngiad yn eich incwm neu'ch budd-daliadau
  • Os yw eich cyfalaf yn cynyddu i £ 24,000 neu uwch
  • Os ydych ar hyn o bryd yn talu'r uchafswm oherwydd eich cyfalaf a bod y cyfalaf yn gostwng i lai na £ 24,000.

Ein manylion cyswllt

Os oes angen mwy o help arnoch, cysylltwch â ni ar

Ffôn: 01248 751 935 / 752 721

E-bost: scccyllid@ynysmon.gov.uk

Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn yn defnyddio eich data personol, sef gwybodaeth amdanoch, mewn modd sy’n cydymffurfio â Chyfraith Diogelu Data