Cyngor Sir Ynys Môn

Ymgyrch #EverydayAgeism


everyday_ageism_promo_800.jpg_cymraegRôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw gwarchod a hybu hawliau pobl hŷn a sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud i wella eu bywydau.

Mae rhoi diwedd ar wahaniaethu a rhagfarn ar sail oed, sy’n sail i lawer o'r problemau a’r heriau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu, yn flaenoriaeth allweddol. Dros y tair blynedd nesaf, bydd y Comisiynydd yn cyflawni amrywiaeth eang o waith sy’n canolbwyntio ar fynd i'r afael â’r materion hyn.

Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn arwain at bobl hŷn yn cael eu trin yn annheg, ac nid yw eu hawliau yn cael eu parchu. Mae hynny’n dylanwadu ar eu hiechyd, eu lles, eu hannibyniaeth ac ar eu safon byw.

Er ei fod yn broblem amlwg, mae gwahaniaethu ar sail oedran a’i effeithiau yn aml yn cael ei anwybyddu gan gymdeithas.

Mae’n rhaid newid hyn.

Dyna pam rydym yn lansio’r ymgyrch #EverydayAgeism – i godi ymwybyddiaeth o ba mor gyffredin yw gwahaniaethu ar sail oedran a’i effaith ar bobl hŷn bob dydd. Rydym am herio gwahaniaethu ar sail oedran, a grymuso pobl hŷn i wneud hynny hefyd.

Byddwn yn ddiolchgar iawn o’ch help a’ch cefnogaeth i sicrhau bod yr ymgyrch yn cael yr effaith orau posib ac i sicrhau bod negeseuon yr ymgyrch #EverydayAgeism yn cyrraedd y gynulleidfa fwyaf posib.

Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio ar 22 Hydref, a gallwch ei chefnogi mewn sawl ffordd: 

  • Rhannu negeseuon a lluniau’r ymgyrch #EverydayAgeism ar gyfryngau cymdeithasol
  • Anfon enghreifftiau o oedraniaeth at y Comisiynydd, fel eu bod yn cael eu herio
  • Gwneud addewid yn nodi sut byddwch yn chwarae eich rhan wrth fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran
  • Cysylltu â mi os oes gennych ragor o syniadau ynglŷn â sut gallwn gydweithio i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran 

Er mwyn ei gwneud hi’n haws nag erioed i chi gefnogi’r ymgyrch, mae Pecyn Cefnogwyr Ymgyrch #EverydayAgeism cynnwys deunydd ar gyfer gwefannau, cylchlythyrau a’r cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â lluniau a graffeg i’ch helpu i gyfleu’r prif negeseuon. Gallwch rannu’r Pecyn Cefnogwyr gyda’ch cysylltiadau a’ch rhwydweithiau hefyd er mwyn iddynt allu cefnogi’r ymgyrch. 

Gallwch ddarganfod mwy am yr ymgyrch, a chael gafael ar amrywiaeth o ddeunyddiau a gwybodaeth ddefnyddiol ar wefan y Comisiynydd.

Mae rhoi diwedd ar wahaniaethu ar sail oedran o fudd i ni gyd. Felly, gallwch helpu i gefnogi’r ymgyrch er mwyn i ni allu cydweithio i newid ymddygiad drwy ddangos bod gwahaniaethu ar sail oedran yn dal i fod yn broblem fawr yn ein cymdeithas ni heddiw, ac i herio'r rhagdybiaethau a’r mythau ynglŷn â phobl hŷn sy’n arwain at oedraniaeth.