Cyngor Sir Ynys Môn

Eich hawliau fel person hŷn


Mae’r boblogaeth sy’n heneiddio yn cynyddu’n gyson ar draws y byd, ond serch hynny mae gwahaniaethu a rhagfarn ar sail oedran yn cael eu goddef yn gyffredinol. Oherwydd hynny, mae mwy o frys i fabwysiadu dull seiliedig ar hawliau mewn perthynas â darparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl hŷn. Gall blaengaredd Cymru, sy’n gam yn y cyfeiriad cywir, fod yn esiampl i nifer o wledydd sy’n wynebu’r un her ddemograffig.

Mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU ac Ewrop o ran polisi heneiddio drwy sefydlu’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru a phenodi’r Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf yn y byd, gyda’r naill a’r llall yn adlewyrchu Egwyddorion ar gyfer Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig.

Mae trydedd ran Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn Llywodraeth Cymru Byw’n Hirach, Byw’n Well yn rhedeg o 2013 i 2023 ac yn nodi’r targedau canlynol:

  • Bod pobl yng Nghymru yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, waeth beth fo’u hoedran
  • Bod gan bob person hŷn yng Nghymru'r adnoddau cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol sydd eu hangen arnynt i ymateb i’r cyfleoedd a’r heriau a wynebant

Mae Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn – Heneiddio’n Dda yn Ynys Môn 2014-19 yn amlinellu ein blaenoriaethau lleol ar Ynys Môn.

Deddfwriaeth

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 am y tro cyntaf yn darparu fframwaith cyfreithiol i Gymru ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’n trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu, yn hyrwyddo annibyniaeth pobl fel bod ganddynt lais cryfach a mwy o reolaeth. Hefyd, mae’n annog canolbwyntio o’r newydd ar ymyrraeth gynnar ac atal. 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

Mae’r ddeddf hon yn ymwneud â gwella lles cymdeithasol, economaidd amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Bydd yn gwneud i gyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf ganolbwyntio mwy ar yr hir dymor, gweithio’n agosach gyda phobl a chymunedau a chyda’i gilydd, ceisio atal problemau a chymryd agwedd fwy cydlynol. 

Deddf Hawliau Dynol

Nid yw hawliau dynol yn ymwneud â’r gyfraith a mynd ag achosion i’r llys yn unig. Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn dylanwadu ar y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu i bobl hŷn. Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn nodi bod rhaid i’r sawl sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, megis staff mewn cartrefi preswyl neu ysbytai, neu ofalwyr yn eich cartref eich hun, sicrhau nad ydynt yn mynd yn groes i’ch hawliau dynol. 

Deddf Galluedd Meddyliol

Mae Galluedd Meddyliol yn golygu eich bod yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun. Os ydych yn colli galluedd meddyliol mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn eich amddiffyn chi a’ch hawliau.

Datganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau Oed Cyfeillgar

Yn 2014, llofnododd Cyngor Sir Ynys Môn Ddatganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau Oed Cyfeillgar. Drwy lofnodi’r Datganiad rydym yn addo ymrwymo i gamau ac egwyddorion penodol sy’n ceisio sicrhau bod pobl hŷn yn Ynys Môn yn cael cyfleoedd i wneud y mwyaf o’u bywydau ac yn chwarae cymaint o ran â phosib yn eu cymunedau.

Datganiad o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru

Er nad oes gan y Datganiad o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru rym cyfreithiol, mae’n nodi’n glir beth yw hawliau pobl hŷn yng Nghymru o dan y gyfraith. Mae’r Datganiad yn helpu drwy sicrhau bod cyrff statudol a darparwyr gwasanaeth sy’n gweithio gyda phobl hŷn, ac ar eu rhan, yn gwybod beth yw’r disgwyliadau wrth ddarparu gwasanaethau i bobl hŷn.

Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn

Set o reolau / egwyddorion cyfreithiol sy’n gweithio mewn partneriaeth â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i sicrhau bod llesiant dinasyddion yn cael ei gyflawni drwy ganlyniadau a dewisiadau ar yr un pryd â chaniatáu i’w llais gael ei glywed, heb gyfaddawdu eu hawliau dynol.

Mae 18 o egwyddorion wedi eu cynnwys o dan amryw o gategorïau, gan gynnwys Urddas, Annibyniaeth, Cyfranogi, Gofal, Hunanfoddhad, a’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Gwybod Eich Hawliau

Mae hwn yn ganllaw syml a ysgrifennwyd gan Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae’n helpu pobl sy’n credu eu bod wedi cael eu trin yn annheg i ofyn am gymorth.