Cyngor Sir Ynys Môn

Gofal preswyl a nyrsio


Ein nod yw cefnogi a chynnal annibyniaeth pobl. Rydym yn gwneud hyn drwy gefnogi pobl i fyw yn eu cartrefi am gyhyd â phosibl. Fodd bynnag, efallai eich bod yn meddwl am symud dros dro neu’n barhaol i Gartref Preswyl neu Nyrsio.

Mae hwn yn benderfyniad pwysig iawn yn eich bywyd. Gall cymorth Gweithwyr Cymdeithasol eich helpu i feddwl drwy’r broses hon. Mae cael cymorth i symud i Gartref Nyrsio neu Gartref Preswyl yn dibynnu ar asesiad o’ch anghenion, naill ai pan ydych mewn ysbyty neu’n byw gartref yn y gymuned.

Er mwyn cael asesiad o’ch anghenion, gallwch ofyn am hyn drwy staff y Ward pan ydych yn yr ysbyty neu fe allwch gysylltu â’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn uniongyrchol. Gweler manylion cyswllt ar y dde.

Mae gwahanol fathau o Gartrefi Preswyl ar gael os y byddwch yn penderfynu symud o’ch cartref eich hun. Bydd gan Weithiwr Cymdeithasol y rhestrau a’r taflenni perthnasol, a gall y Gweithiwr eich helpu i wneud dewis gwybodus.

Mae rhestr o gartrefi yn eich ardal chi ar gael hefyd ar wefan yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) neu gellir ei lawrlwytho fel dogfen PDF isod.

Pe baech angen gofal nyrsio, gall Gweithiwr Cymdeithasol drefnu eich derbyn i gartref nyrsio yn dilyn asesiad ac ymgynghoriad gyda chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd. Y Bwrdd Iechyd sy’n gyfrifol am dalu’r elfen gofal nyrsio o’r ffi wythnosol mewn cartref nyrsio i’r holl breswylwyr.

Gall y gweithiwr Cymdeithasol roi cyngor i chi ar sut i gael yr elfen hon o gefnogaeth ariannol tuag at y ffi wythnosol.

Rhaid i bob cartref gofal fod wedi ei gofrestru ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Os ystyrir bod angen lleoliad preswyl, bydd cyfnod o asesiad fel arfer yn cael ei drefnu. Gelwir hyn yn “Gofal Canolraddol”. Byddai’n well i chi beidio ag ildio terfynu eich tenantiaeth na threfnu i’ch tŷ gael ei werthu hyd nes y byddwch yn hapus gyda’r penderfyniad i symud. Os ydych yn poeni am hyn fe all eich Gweithiwr Cymdeithasol ei drafod â chi.

Bydd y swm y byddwch yn ei dalu neu’n ei gyfrannu tuag at y ffi wythnosol yn dibynnu ar eich incwm a’ch cyfalaf. Mae’n rhaid i bawb, fodd bynnag, dalu isafswm allan o’u pensiwn gwladol neu incwm ychwanegol, ond fe ganiateir i chi gadw Lwfans Personol wythnosol i’w wario fel y dymunwch. Caiff y Lwfans Personol hwn ei bennu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a bydd yn cael ei newid yn flynyddol.

Bydd y Llywodraeth yn gosod isafswm ac uchafswm lwfans incwm/cyfalaf yn flynyddol - bydd pobl sydd ag incwm neu gyfalaf sydd yn is na’r cyfyngiad cyfalaf isaf yn cyfrannu o’u pensiwn ac yn gymwys i dderbyn nawdd gan yr Awdurdod Lleol mewn cartref preswyl a chan yr Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd pe baent yn symud i Gartref Nyrsio.

Bydd pobl sydd ag incwm neu gyfalaf sydd rhwng y cyfyngiadau cyfalaf isaf ac uchaf, yn ogystal â’u pensiwn gwladol, yn gorfod cyfrannu yn unol â graddfa benodol. Ni fydd pobl sydd ag incwm neu gyfalaf sydd yn fwy na’r cyfyngiad cyfalaf uchaf yn gymwys i dderbyn cefnogaeth ariannol a bydd yn rhaid iddynt dalu’r ffioedd yn llawn. Os ydych yn berchen eich tŷ eich hun, bydd gwerth cyfalaf y tŷ yn cael ei gymryd i ystyriaeth oni bai bod gennych ŵr/wraig neu berthynas dibynnol yn byw yno.

Efallai y byddwch yn teimlo y byddai o fantais i chi gael ein cefnogaeth hyd yn oed pe na baech yn gymwys am gymorth ariannol ar y cychwyn. Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol:

  • gynnal asesiad o’ch anghenion ar gyfer gofal nyrsio neu breswyl mewn cartref o’ch dewis chi
  • darparu rhestr o’r cartrefi sydd ar gael a rhoi taflenni a’ch helpu i ddewis y llety yr ydych yn ei ffafrio
  • rhoi cyngor am y ffioedd wythnosol
  • trefnu cyswllt gyda’r Cartref Gofal yr ydych wedi ei ddewis
  • cadw mewn cysylltiad â chi a dweud wrthych pa bryd yr ydym yn amcangyfrif y byddwch yn dod yn gymwys am gefnogaeth ariannol

Dylai’r gwasanaeth hwn eich helpu i deimlo’n ddiogel yn eich trefniadau ar gyfer eich gofal a’ch llety yn y dyfodol.

Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn gyfrifol am gofrestru ac arolygu cartrefi yn flynyddol ac mae copïau o’u hadroddiadau arolygu ar gael ar eu gwefan.

Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn gyfrifol am gofrestru cartrefi.

Gallwch wneud sylw neu gwyn.