Cyngor Sir Ynys Môn

Cymunedau oed-gyfeillgar


Age Friendly Wales logo

Mae ein gweledigaeth yn Gymru sy’n gyfeillgar i oedran ac sy’n cefnogi pobl o bob oed i fyw ac heneiddio’n dda. Rydym eisiau creu Cymru lle mae pawb yn edrych ymlaen at heneiddio. (Llywodraeth Cymru)

Beth yw cymunedau oed-gyfeillgar?

Dylai pawb yng Nghymru fod yn gallu heneiddio’n dda. Mewn cymunedau sy’n oed gyfeillgar, mae pobl hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael eu cynnwys ac yn cael eu parchu, ac yn gallu

  • mynd a dod
  • gwneud y pethau maent eisiau eu gwneud
  • byw bywydau iach a gweith
  • garbod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf
  • dweud eu dweud

Mae cymunedau sydd o blaid pobl hŷn yn gymunedau goddefgar, trugarog a chynhwysol.  Pan fydd cymunedau’n dod at ei gilydd i fod yn fwy o blaid pobl hŷn, mae hynny’n dda i bawb sy’n byw yno. 

Canllaw ymarferol i greu cymuned sy'n oed-gyfeillgar

Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn eisiau i Gymru fod y lle gorau yn y byd i heneiddio ynddo, ac mae’n gweithio ledled Cymru i annog a chefnogi'r gwaith o ddatblygu cymunedau sydd o blaid pobl hŷn. 

Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn wedi cynhyrchu canllaw ymarferol ar gyfer cymunedau sy'n ceisio gwneud eu cymdogaethau'n fwy cyfeillgar i oedran. 

Arweiniad ymarferol i greu newid yn eich cymuned (dolen allanol)