Cyngor Sir Ynys Môn

Cyfeirlyfr Cludiant Cymunedol Môn


Prif Gyswllt: Arfon Owen

Rhif Ffôn: 01248 752280

E-bost: ArfonOwen@ynysmon.llyw.cymru

Dull cyfeirio a ffafriwyd: Ffôn.

Oriau agored: 7yb – 6yh Dydd Llun i Ddydd Gwener (dim penwythnosau)

Lleoliadau Gwasanaeth: Yr ynys gyfan

Defnyddwyr cymwys: Angen bod dros 60 oed a methu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, problemau symudedd / defnyddwyr cadair olwyn.

Mathau o gerbydau: Bws Mini

Polisi Codi Tâl: Costau fesul milltir ac oriau staff.

Lleiafswm o rybudd sydd ei angen cyn y siwrne: 2 ddiwrnod

Unrhyw wybodaeth ychwanegol: Angen eu ffitio fewn o gwmpas y teithiau bore a phrynhawniau arferol.

Prif gyswllt: Huw Jones, Cydlynydd

Rhif ffôn: 07484 223 696

Cyfeiriad e-bost: info@barbarabusnorthwales.com

Dull gorau o gysylltu: E-bost, ffôn neu wefan barbarabusnorthwales.com

Oriau agor: 8yb - 6yh saith diwrnod yr wythnos. Caiff y llinell eu monitro gweddill yr amser gan obeithio ateb bob galwad o fewn 24 awr

Ardaloedd a wasanaethir: Ynys Môn ac arfordir Gogledd Cymru yn cynnwys Gwynedd gyfan. Mae ein canolfannau ym Malltraeth a Treborth, (Bangor)

Y rhai sy’n gymwys: Unrhyw ddefnyddiwr cadair olwyn nad yw’n gallu defnyddio car neu dacsi

Math o gerbyd: Cerbyd arbennig ar gyfer cadeiriau olwyn (Ford Tourneo Connect wedi ei addasu) Yn gallu cludo gyrrwr, teithiwr mewn cadair olwyn a thri theithiwr ychwanegol. I’w yrru gan aelod o’r teulu, ffrind neu ofalwr dan yswiriant Bws Barbara (rhaid cofrestru)

Trefniant tâl: Ail lenwi’r tanc a chyfraniad i’r elusen (Rhif Elusen: 257507)

Pryd rhaid gwneud trefniant: Deuddydd ymlaen llaw neu mewn argyfwng gall fod yn bosibl mewn 24 awr

Nosweithiau a phen wythnosau: Yn bosibl gyda gyrrwr eich hunain ond yn llai hyblyg pan fo gofyn am yrrwr gwirfoddol

Gwasanaeth ychwanegol: Gallwn drefnu gyrrwr gwirfoddol ar gyfer siwrneiau byr ond mae hyn yn ddibynnol ar argaeledd gyrwyr gwirfoddol. Fodd bynnag rydym yn edrych am fwy o wirfoddolwyr.

Prif Gyswllt: Bethan Jukes

Rhif Ffôn: 01248 725 745

E-bost: linc@medrwnmon.org

Dull cyfeirio a ffafriwyd: Ffôn neu e-bost

Oriau agor swyddfa: 9yb – 4yh Dydd Llun i Ddydd Gwener.

Lleoliadau gwasanaeth: Ynys Môn gyfan. Mae’r cynllun yn bennaf ar gyfer pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn brin, yn ogystal â’r bobl y mae eu hiechyd neu eu symudedd yn ei gwneud hi’n anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig. Mae hefyd
ar gyfer pobl sydd angen cymorth cwmnïaeth i fynd i glybiau, siopa neu eistedd mewn caffi gyda’i gilydd, neu fynd i gerdded.

Defnyddwyr cymwys: Mae gwasanaeth Car Linc Môn ar gael i drigolion Ynys Môn ar gyfer teithiau/cymorth a phan nad oes cludiant addas arall ar gael.

Cyfrifoldeb Medrwn Môn yw pennu a yw taith benodol yn ddilys, ond mae’r rhestr wirio isod yn rhoi ychydig o arweiniad o ran y meini prawf sydd angen ei
fodloni i ddefnyddio’r gwasanaeth:-

  •  A oes gan y teithiwr unrhyw fodd o drafnidiaeth breifat, e.e. a oes ganddo/ganddi gar?
  • A all y teithiwr ddefnyddio unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus arall?
  • A all y teithiwr newid amser y daith er mwyn defnyddio cludiant arall?
  •  A all y teithiwr ddefnyddio’r Gwasanaeth Ceir Ambiwlans?
  • A yw’n rhesymol i’r teithiwr logi tacsi ar gyfer y daith?
  •  A yw’n rhesymol i’r teithiwr osgoi gwneud y daith yn gyfan gwbl?

Os mai’r ateb i unrhyw rai o’r cwestiynau uchod yw YDYW - fel arfer ni fyddai’r daith yn cael ei chaniatáu.

Bydd yr holl geisiadau'n cael eu hasesu ar eu teilyngdod. Gellir defnyddio’r gwasanaeth mwy nag unwaith yr wythnos, ond mae hynny’n dibynnu ar argaeledd ein gwirfoddolwyr.

Math o gerbydau: Ceir gwirfoddolwyr (gall fod yn 2 neu 4/5 drws)

Polisi Codi Tâl : . Bydd amcan o gostau a’r dull talu wedi cael eu trefnu cyn y daith, ynghyd ag unrhyw drefniadau eraill, e.e. amser dychwelyd, a oes angen cymar, ac a oes gan ddefnyddiwr y gwasanaeth Fathodyn Glas.

Lleiafswm o rybudd sydd ei angen cyn y siwrne: O leiaf 3 diwrnod.

Siwrne noswaith a/neu benwythnos: Yn ddibynnol ar argaeledd ein gwirfoddolwyr.

Gwasanaethau a gynigir:

  • Mynd i apwyntiadau ysbyty
  • Mynd i weld y meddyg, y deintydd neu optegydd
  • Mynd i Ganolfan Gofal Dydd
  • Casglu presgripsiwn
  • Gwneud ychydig o neges
  • Ymweld â pherthnasau neu ffrindiau
  • Mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol ymgysylltu â’r gymuned (boreau coffi ac ati.)
  • Rhoi hwb i’w hyder drwy gael cwmnïaeth wrth ymweld â gardd neu leoliad arall
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau Presgripsiynau Cymdeithasol yn ôl cyfarwyddyd Meddyg Teulu.

Unrhyw wybodaeth ychwanegol: Mae’n bosib cofrestru eich diddordeb i fod yn wirfoddolwyr i Car Linc Môn drwy gysylltu â Bethan trwy’r manylion uchod.

Rydym yn cynnig hyfforddiant, cymorth, yn talu costau teithio ac mae ein gwirfoddolwyr yn dweud eu bod nhw’n cael teimlad boddhaus o wneud cyfraniad cadarnhaol o fewn eu cymunedau lleol

Prif Gyswllt: William Hadfield

Rhif Ffôn: 07918 993408

E-bost: bhadfield@hotmail.co.uk

Cyswllt Eilaidd: Mike Jones

Rhif Ffôn: 01248 852654

E-bost: N/A

Dull cyfeirio a ffafriwyd: Ffôn neu e-bost

Oriau agor swyddfa: 9yb – 5yh Dydd Llun i Ddydd Gwener.

Lleoliadau gwasanaeth (trefi a phentrefi): Benllech, Moelfre, Llanbedrgoch, Brynteg, Marianglas, Pentraeth a Red Wharf Bay

Defnyddwyr cymwys: 60 mlwydd oed a drosodd, salwch neu anabledd (hir neu fyr dymor), dementia diagnosis cynnar (angen gwarchodwr). Methu cefnogi'r rheini mewn cadeiriau olwyn.

Math o gerbydau: Ceir gwirfoddolwyr (gall fod yn 2 neu 4/5 drws)

Polisi Codi Tâl: Isafswm o £2.00 hyd at 4 milltir yn 50c y filltir. Costau safonol i ysbyty Gwynedd, Llangefni, Caergybi, Llandudno ayyb.

Lleiafswm o rybudd sydd ei angen cyn y siwrne: cymaint â phosibl oherwydd gyrwyr gwirfoddol.

Lleiafswm o rybudd sydd ei angen cyn y siwrne: Cymaint o rybudd ac sy’n bosib oherwydd gyrwyr gwirfoddol.

Siwrne noswaith a/neu benwythnos: Na.

Gwasanaethau a gynigir: Apwyntiadau ysbyty, deintydd a’r meddyg. Siopa, Banc/Swyddfa Bost. Ymweliadau cartref, darllen, llenwi ffurflenni, cerdded y ci (os oes gwirfoddolwr ar gael).

Unrhyw wybodaeth ychwanegol: Apwyntiadau argyfwng ysbyty ar Ddydd Sadwrn yn cael eu cysidro os oes gwirfoddolwyr ar gael

Prif Gyswllt: Veronica Huband

Rhif Ffôn: 01407 763559

E-bost: veronica@morlo.co.uk

Facebook: Ynys Cybi & Valley Good Turn Scheme

Dull cyfeirio a ffafriwyd: E-bost neu ffôn.

Oriau agored: 9yb – 5yh Dydd Llun i Ddydd Gwener (dim penwythnosau)

Lleoliadau Gwasanaeth: Caergybi, Y Fali, Rhoscolyn, RAF Fali, Bae Trearddur

Defnyddwyr cymwys: 60 oed a throsodd, neu ddim yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, problemau symudedd/ defnyddwyr cadair olwyn. Bydd
pob cais am gymorth yn cael ei asesu yn ôl ei deilyngdod

Mathau o gerbydau: Ceir gwirfoddolwyr (gall fod yn 2 neu 4/5 ddrws). Cerbyd Trydan - 7 sedd neu 5 sedd ag 1 cadair olwyn.

Polisi Codi Tâl: Oherwydd y cynnydd mewn costau tanwydd a thrydan rydym wrthi’n adolygu’r polisi hwn - danfonwch e-bost neu ffoniwch am wybodaeth bellach

Lleiafswm o rybudd sydd ei angen cyn y siwrne: Cymaint o rybudd ac sy’n bosib oherwydd gyrwyr gwirfoddol.

Gwasanaethau a gynnigir: Ymweliadau a’r Ysbyty, Deintydd, Doctor, Siopa, Banc, Swyddfa Bost, Llyfrgell. Ymweliadau Cartref. Casglu Perscripsiwn

Mae Cynllun Tro Da Seiriol yn seiliedig ar yr egwyddor o wirfoddolwyr yn gwneud “troeon da” i helpu unigolion, teuluoedd, neu grwpiau ag anghenion a nodwyd sy’n byw yn Ardal Seiriol.
Mae’r Ardal Seiriol yn cynnwys Biwmares, Llandegfan, Llansadwrn, Llanddona, Llangoed, Llanfaes a Penmon.

Mae’r Cynllun yn cynnig nifer o wahanol wasanaethau, gan gynnwys cludiant cymunedol:

  • Mynd a chleientiaid i apwyntiadau doctor, ysbyty ac apwyntiadau eraill
  • Mynd a chleientiaid i siopa, neu weithgareddau eraill
  • Ymgymryd â danfoniadau siopa, presgripsiwn a llyfrau o’r llyfrgell

Mae’r gwasanaethau cludiant cymunedol yn cael eu darparu gan
wirfoddolwyr. Mae gennym ni 3 wahanol fath o gerbydau:

  • Bws mini 17 sedd
  • Cludwr pobl Nissan e-NV200 trydan 7 sedd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn
  • Ceir preifat sy'n eiddo i wirfoddolwyr

Gellir darparu cludiant 7 diwrnod yr wythnos, yn ddibynnol ar argaeledd gwirfoddolwyr.

I hawlio unrhyw wasanaeth, gan gynnwys cludiant cymunedol, bydd agen cofrestru gyda’r Cynllun Tro Da. Gellir cofrestru am ddim, ac nid yw’n eich
ymrwymo i ddefnyddio’r cynllun yn fwy nag y dymunwch.

Rhif Ffôn: (01248) 305 014

Llinellau ar agor o 9.00y.b – 5.00y.h. Dydd Llun i Ddydd Gwener

Mae’r Cynllun Tro Da Seiriol yn cael ei redeg gan Cynghrair Seiriol. Mae’r Cynghrair yn sefydliad sy’n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr yn gwasanaethu cymunedau yn yr Ardal Seiriol, a’n cwbl dim-er-elw. Ond, er mwyn galluogi’r Cynllun Tro Da i redeg, mae’n rhaid codi am gludiant ymunedol, i dalu am gostau treuliau gwirfoddolwyr, cerbyd a gweinyddol.

Ymholiadau gan Sefydliadau

Rydym hefyd yn croesawu ymholiadau parthed y defnydd ac argaeledd o’r bws mini 17 sedd a chludwr pobl 7 sedd gan sefydliadau cymunedol lleol. Mae’r ddau gerbyd wedi ei leoli yn Canolfan Hamdden Biwmares a gellir derbyn wybodaeth bellach drwy gysylltu â:

Ffon: 01248 811200 neu e-bost: enquiries@canolfanbeaumaris.org.uk

Prif Gyswllt: Simon Wareham

Rhif Ffôn: 07999 352576

E-bost: simon@iorwertharms.wales neu info@iorwertharms.wales

Facebook: www.facebook.com/CTDBryngwran

Dull cyfeirio a ffafriwyd: Ffafriwyd E-bost, neu os ddim, Ffôn

Oriau agored: 10yb – 8yh Dydd Llun i Ddydd Gwener 10yb – 4yh ar benwythnosau

Lleoliadau Gwasanaeth: Bryngwran a’r ardaloedd cyfagos

Defnyddwyr cymwys: 60 oed a throsodd, neu ddim yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, problemau symudedd/ defnyddwyr cadair olwyn. Bydd pob cais am gymorth yn cael ei asesu yn ôl ei deilyngdod

Mathau o gerbydau: Cerbyd Trydan - 7 sedd neu 5 sedd ag 1 cadair olwyn.

Polisi Codi Tâl: Oherwydd y cynnydd mewn costau tanwydd a thrydan rydym wrthi’n adolygu’r polisi hwn - danfonwch e-bost neu ffoniwch am wybodaeth bellach

Lleiafswm o rybudd sydd ei angen cyn y siwrne: cymaint o rybudd ac sy’n bosib oherwydd gyrwyr gwirfoddol.

Gwasanaethau a gynigir: Ymweliadau a’r Ysbyty, Deintydd, Doctor, Siopa, Banc, Swyddfa Bost, Llyfrgell. Ymweliadau Cartref. Casglu Perscripsiwn.

Mae Re-engage yn rhedeg grwpiau gweithgareddau am ddim ar Ynys Môn. Pob pythefnos rydym yn cynnal dosbarth ffitrwydd corfforol wedi ei ddilyn gan fyrbryd ysgafn.

Rydym yn cynnal ein grwpiau gweithgareddau ar brynhawn Dydd Iau ac fe allwn ddarparu trafnidiaeth i ag o'm grŵp, yn ddibynnol ar argaeledd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Richard ar 02078 812 369.

Gwefan: Re-engage

Traveline Cymru www.traveline-cymru.info

Gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yw Traveline Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus – bysiau a threnau – ar draws Cymru yn ogystal â gwybodaeth am lwybrau cerdded a beicio.

Gallwch ffonio eu Canolfan Gyswllt ddwyieithog yn rhad ac am ddim ar 0800 464 0000 os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cynllunio teithiau.

Cyngor Sir Ynys Môn 

Gwefan Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnig gwybodaeth leol ar drafnidiaeth gyhoeddus, hawlio cerdyn teithio, tacsis, llongau a mwy

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.