Cyngor Sir Ynys Môn

Datganiad caethwasiaeth fodern


Adroddiad Blynyddol 2020/2022

Yn 2018, ymrwymodd Cyngor Sir Ynys Môn i ddilyn Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

Fe wnaethom ymrwymo i wella yn barhaus ein harferion er mwyn adnabod a dileu unrhyw gaethwasiaeth o fewn ein busnes ac o fewn ein cadwyni cyflenwi.  Rydym am weithredu'n foesegol a chydag uniondeb yn ein holl berthnasau busnes.

Mae Polisi Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Ynys Môn yn dwyn ynghyd feysydd allweddol diogelu, fel bod adrodd ar achosion o gaethwasiaeth fodern a darparu cefnogaeth rheini sydd yn dioddef wedi ei brif ffrydio mewn systemau a phrosesau diogelu. Mae gweithwyr ar draws y sefydliad wedi cadarnhau eu bod wedi darllen a derbyn y polisi.

Beth ydym wedi'i wneud?

Profodd y ddwy flynedd diwethaf yn rhai heriol, gyda'r Cyngor Sir yn ymateb yn uniongyrchol i bandemig COVID 19 mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cyhoeddus eraill, cyflogwyr a'r gymuned. Canolbwyntiwyd ar gynnal gwasanaethau hanfodol, gan amddiffyn iechyd a lles dinasyddion a'r gweithlu. Parodd yr effaith, y pwysau a'r heriau, er gwaethaf gweithrediad parhaus y rhaglen frechu.  

Mae ein polisi chwythu'r chwiban yn grymuso staff i godi pryderon heb ofni dial neu anfantais. Mae'r Polisi hefyd yn berthnasol i gontractwyr / staff asiantaeth. Mae hefyd yn cynnwys cyflenwyr a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau o dan gontract i'r Cyngor, a ddarperir yn adeilad y Cyngor ei hun.

Sicrhawyd bod 82% o'n staff (sydd â mynediad at e-ddysgu) wedi cwblhau'r modiwl Caethwasiaeth Fodern er mwyn cynyddu eu hymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o gaethwasiaeth fodern a cham-drin hawliau dynol (gan gynnwys masnachu mewn pobl).

Wedi chwarae ein rhan yn yr agenda Gwrth-gaethwasiaeth ranbarthol a chenedlaethol.
Mae gennym Swyddog Perthnasau Iach arbenigol, sydd â'r sgiliau a'r wybodaeth i ddiogelu plant sydd mewn perygl a chefnogi'r teuluoedd yr effeithir arnynt. Ochr yn ochr â'n partneriaid, sy'n ffurfio'r Panel Ecsbloetio amlasiantaethol, rydym wedi amddiffyn plant a phobl ifanc sydd mewn perygl neu sy'n cael eu niweidio trwy ecsploetiaeth rhywiol a throseddol.  Rydym wedi gwneud atgyfeiriadau mewn achosion priodol at y Mecanwaith Cyfeirio'r Genedlaethol (NRM) gan sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth briodol.

Cydweithio'n agos ag asiantaethau cyhoeddus perthnasol i sicrhau bod cynllunio, paratoi a defnyddio trefniadau rheoli ffiniau newydd yn drylwyr ar ôl Brexit.

Rydym wedi darparu  Canllaw i gefnogi cymhwyso ystyriaethau diogelu yn ein gwaith caffael a rheoli contractau.

Yn ystod 2022 a 2023

Rydym yn bwriadu:

  • parhau i adeiladu ar ein hymrwymiadau yn ein Strategaeth Caffael a Rheoli Contractau i sicrhau bod arferion moesegol yn cael eu prif ffrydio yn y broses gaffael ac yn y ffordd yr ydym yn rheoli contractau
  • darparu hyfforddiant ar y Cod Ymarfer i swyddogion perthnasol i wella eu gwybodaeth a'u harfer o ran sicrhau nad ydym yn cyflogi, neu'n defnyddio contractwyr nad ydynt yn gweithredu'n gyfreithlon

Enghreifftiau arfer da

Gofal cymdeithasol

Mae holl delerau contract gofal cymdeithasol sydd newydd eu tendro yn cynnwys gofynion bod y darparwyr yn cydymffurfio â darpariaethau Deddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998, Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae contractau'n nodi mai dim ond gyda chytundeb ymlaen llaw gyda ni y gall is-gontractio ddigwydd. Rydym yn gallu gwirio addasrwydd y trefniant is-gontractio.

Mae contractau'n nodi'n glir bod yn rhaid i Ddarparwyr gytuno i weithio yn unol â'r gofynion deddfwriaethol canlynol, sy'n helpu i atal Caethwasiaeth Fodern.

  • Deddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 a Rheoliadau 19992
  • Rheoliadau Amser Gweithio 1998 a 19993
  • Deddf Datgelu er Budd y Cyhoedd 1998 (Chwythu'r Chwiban)
  • Rhan V Deddf yr Heddlu 19975
  • Deddf Hawliau Cyflogaeth 19966
  • Deddf Adsefydlu Troseddwyr 19847
  • Mae'r Rheoliadau Darparu a Defnyddio Offer Gwaith (1998) (ISBNO-7176-0414-4) ar gael gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
  • Taflen y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Gofal ac Ailsefydlu Troseddwyr (NACRO)

Mae trefniadau monitro contractau ar waith er mwyn sicrhau cydymffurfiad.

Yn ystod unrhyw broses dendro, gofynnir i ymgeiswyr ddisgrifio sut y byddent yn gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Ynys Môn a sut y byddai'r sefydliad yn gweithio o ran datblygiad ac ymgysylltiad cymunedol. Byddai naratif yn cael ei gynnwys i ddangos pa fath o ymateb y byddem yn ei ddisgwyl a byddai hyn yn cynnwys ymrwymiad i ddeall ac atal caethwasiaeth fodern.

Gwneir a chraffer ar Wiriadau Ariannol. Rhaid i'r ymgeisydd hefyd ddarparu dadansoddiad clir o'r gyfradd a gyflwynwyd - mae hyn yn cynnig rhywfaint o sicrwydd i ni bod staff yn derbyn isafswm cyflog, ynghyd â thâl salwch, tâl gwyliau,  phensiwn ac ati.

Gwasanaethau Tai - Rhaglen Grant Cymorth Tai

Wrth gaffael y gwasanaethau hyn, disgwylir i ymgeiswyr dystiolaethu:

  • pa gamau y maent wedi'u cymryd / maent yn bwriadu eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â caethwasiaeth fodern a cham-drin hawliau dynol yn y sefydliad a'u cadwyni cyflenwi
  • nad ydynt yn destun unrhyw ymchwiliadau na chyhuddiadau cyfredol mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern a / neu gam-drin hawliau dynol
  • eu bod yn darparu hyfforddiant ar gaethwasiaeth fodern a cham-drin hawliau dynol i'w staff sy'n ymwneud â rheoli'r gadwyn gyflenwi
  • arfer gweithlu diogel
  • sicrhau bod eu gweithwyr yn ymwybodol o'u hawliau
  • bod gan bob gweithiwr yr hawl i weithio yn y DU
  • bod gan bob gweithiwr gontractau cyflogaeth ar waith
  • bod yr holl weithwyr yn cael eu talu yn unol â'r cyfraddau tâl cenedlaethol perthnasol (dyma'r cyfraddau Isafswm Cyflog / Byw Cenedlaethol yn y DU)

Mae trefniadau rheoli a monitro contractau cadarn ar waith: gan gynnwys adolygiad gwasanaeth cynhwysfawr bob tair blynedd.

Gwneir ymarfer diwydrwydd dyladwy blynyddol.