Wrth golli cynefinoedd mae bywyd gwyllt yn wynebu risg fawr yn gyffredinol ond hefyd mae yna ddatblygiadau eraill sy’n medru achosi difrod enfawr i gynefinoedd ac i fywyd gwyllt.
Planhigion estron ymledol
Mae’r planhigion ymledol yma yn fygythiad enfawr sy’n achosi costau mawr - mae tua £2 biliwn yn cael ei wario bob blwyddyn ar geisio cael gwared ohonynt. Yn sydyn iawn mae’r planhigion hyn yn cael y llaw uchaf ar blanhigion eraill ac o’r herwydd mae’r rhywogaethau brodorol yn ildio cynefinoedd a hefyd collir ffynonellau o fwyd - yn y pen draw mae hyn yn gallu arwain at lai o amrywiaeth mewn byd natur.
Hefyd gallant achosi problemau uniongyrchol i’r gymdeithas drwyddi draw oherwydd yr effaith ar isadeiledd ac oherwydd risgiau llifogydd. Daw nifer o’r planhigion hyn o ganolfannau garddio ac o’r fasnach acwariwm. Ar wefan Plantlife ceir cyngor ar blanhigion i’w hosgoi ac ar blanhigion eraill y mae modd eu prynu yn eu lle; hefyd mae gan GB Non-native Species Secretariat (NNSS) ganllawiau defnyddiol i’w llawrlwytho fel cymorth i adnabod y planhigion drwg.
Sbwriel
Rydym yn ffodus iawn fod yma, ar Ynys Môn, arfordir rhagorol, yn llawn o amrywiaeth ond mae sbwriel plastig yn creu problem fawr. Dyw llawer o’r plastig hwn ddim yn pydru’n naturiol a gall greu peryglon - rhai yn amlycach nag eraill.
Mae’n hyll ac yn ddrwg iawn i adar, pysgod ac anifeiliaid, oherwydd gall y creaduriaid hyn fynd yn sownd yn y plastig neu ei fwyta, a marw yn sgil hynny yn aml iawn. Yn yr haf daw y môr-grwban lledraidd i’n dyfroedd - hwn yw’r crwban mwyaf yn y byd a thrwy gamgymeriad gall fwyta bag plastig neu falwn trwy gamgymryd y pethau hyn am eu hoff fwyd, sef y sglefren fôr a’i fygu i farwolaeth.
Hefyd rhaid cofio bod sbwriel yn gymorth i rywogaethau estron ymledu - gwnânt hynny trwy lynu wrth ynysoedd mawr iawn o blastig sy’n nofio ar wyneb y môr a hwnnw wedyn yn cael ei gario ar y llanw a’i adael mewn mannau arfordirol i greu problemau i’r bywyd gwyllt brodorol.
Ond mae sawl peth syml y medrwn ei wneud i gynnig cymorth - megis torri’r plastig hwnnw sy’n dal caniau wrth ei gilydd (caniau cwrw a chaniau cyffredinol) ac wedyn nid yw anifeiliaid yn mynd yn sownd ynddo. Hefyd mae angen rhoddi byds cotwm mewn bin nid i lawr y toiled dwr.
Gan fod balwns yn syrthio yn y môr ar ddiwedd eu taith mae eisiau gofal - yn wir peidio â’u rhyddhau.
Yn gyffredinol y neges bwysig yw defnyddio llai o bethau, ailddefnyddio ac ailgylchu.
Dan y cynllun Mabwysiadu Traeth mae modd i bawb fod yn rhan o’r dreftadaeth arfordirol werthfawr a glân.