Fel rhan o raglen Ffyniant Cyffredin DU, mae oddeutu £1.3m wedi ei glustnodi ar gyfer Ynys Môn gyda pheth o’r arian wedi ei ymrwymo ar gyfer sefydlu Cronfeydd ar gyfer cefnogi prosiectau cymunedol.
Mae £400,000 wedi ei glustnodi ar gyfer cefnogi prosiectau sy’n arwain at greu Ynys iach ac actif. Bydd y gronfa yn cael ei weinyddu ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Môn Actif.
Amserlen
Dyddiad agor y gronfa ar gyfer Rownd 1 yw 12 Chwefror 2024.
Dyddiad cau cyflwyno ceisiadau i'r gronfa yw 5pm ar 11 Mawrth 2024. Byddwn yn anelu i asesu a chymeradwyo ceisiadau erbyn 15 Ebrill 2024.
Ni fydd yn bosib ariannu unrhyw weithgaredd sydd wedi cychwyn cyn bydd llythyr cynnig wedi ei arwyddo a’i ddychwelyd i swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn.
Ar hyn o bryd nid ydym yn rhagweld y byddwn yn agor ail rownd i ymgeisio ar gyfer y gronfa. Mi all rownd ychwanegol cael ei gynnal pe bai’r galw yn y rownd gyntaf yn isel.
Pwy sy’n cael ymgeisio
Mae’r gronfa yn agored unrhyw sefydliad nid er elw sy’n cydymffurfio a’r canllawiau ymgeisio. Er engrhaifft, clybiau chwaraeon cymunedol, elusennau, mentrau cymdeithasol a mudiadau gwirfoddol.
Beth sydd yn bosib ei ariannu
Mae’n bosib ymgeisio am symiau rhwng £5,000 hyd at £30,000, i ariannu prosiect yn ei gyfanrwydd, neu i ariannu rhan o brosiect mwy. Tra mae’n bosib cyflwyno cais am 100% o gostau’r prosiect mi fydd ymdrechion i gydariannu’n cael eu hystyried wrth sgorio ceisiadau. Pan fydd y grant yn cyfrannu at brosiect mwy, bydd disgwyl i’r pecyn ariannol gyfan fod yn ei le cyn rhyddhau grant o’r gronfa hon.
Bydd disgwyl i bob cais unai::
- creu cyfleoedd ychwanegol/ newydd i fod yn gorfforol actif mewn chwaraeon neu weithgareddau ffitrwydd a llesiant, neu
- cyfrannu tuag at gynaladwyedd mudiadau sydd yn darparu’r cyfleodd uchod
Math o eitemau a gellir eu hariannu
- Gwariant angenrheidiol i sefydlu clwb neu dîm newydd neu ehangu’r nifer sydd yn medru cymryd rhan yn eich gweithgareddau.
- Hyfforddiant i gymhwyso gwirfoddolwyr fydd yn ehangu cyfleodd i fod yn actif.
- Llogi cyfleusterau er mwyn sefydlu clwb neu dîm newydd neu ehangu’r nifer sydd yn medru cymryd rhan yn eich gweithgareddau.
- Mesurau effeithiolrwydd ynni mewn cyfleusterau chwaraeon.
- Buddsoddiad mewn cyfleusterau er mwyn creu cyfleoedd ychwanegol yn cynnwys gwaith dichonolrwydd angenrheidiol.
- Buddsoddiad mewn prosiectau fydd yn creu llif incwm rheolaidd i’r mudiad, ac felly’n cryfhau cynaladwyedd ariannol.
- Uwchraddio cyfleusterau i greu cyfleoedd cynhwysol newydd.
- Costau cynnal digwyddiad fydd yn annog mwy o bob i fod yn actif yn rheolaidd- OND bydd angen dangos llwybrau clir i bobl parhau i gymryd rhan wedi’r digwyddiad.
Math o eitemau fydd ddim yn gymwys
- Costau cynnal a chadw offer ac adeiladau.
- Costau cynnal gweithgareddau sydd eisoes yn bodoli.
- Costau cyflogi staff mewn rôl sydd eisoes yn bodoli.
Rydym yn awyddus i weld ceisiadau sydd yn creu cyfleoedd i grwpiau sydd â lefel is o gyfranogiad ar yr ynys ar hyn o bryd e.e. merched a genethod, pobl hŷn / 60+, plant 4-11 oed, pobl anabl, grwpiau BAME, y rhai hynny sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Bydd angen dangos fod y prosiect yn cyfrannu tuag at brif ganlyniad y grant - mwy o ddefnyddwyr cyfleusterau/amwynderau.
Sut i wneud cais
Darllenwch yr atodiadau ar y dudalen hon cyn gwneud cais. Maent yn cynnwys gwybodaeth hanfodol i wneud y broses o wneud cais yn haws i chi.
Unwaith y byddwch yn barod i gyflwyno'ch cais, llenwch y ffurflen ar-lein a defnyddiwch y botwm 'Cyflwyno' ar ddiwedd y ffurflen i anfon eich ffurflen atom.
Cofiwch sicrhau eich bod hefyd yn cyflwyno'r dogfennau atodol sydd wedi eu rhestru o fewn y canllaw, gyda’ch cais. Ni fydd yn bosib prosesu ceisiadau anghyflawn.
Mae rhestr wirio ar gyfer pa wybodaeth a llwythiadau y bydd eu hangen arnoch i wneud cais ar ddechrau'r ffurflen ar-lein.
Ffurflen enghreifftiol i'ch helpu
Rydym wedi creu fersiwn enghreifftiol o'r ffurflen gais ar-lein.
Edrychwch ar y ffurflen hon fel eich bod yn gwybod pa wybodaeth y bydd ei hangen arnoch pan fyddwch yn gwneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein.
Ffurflen gais ar-lein
Ar gau i geisiadau.
Dyddiad cau: 5pm, 11 Mawrth 2024
Os oes angen cyngor arnoch ar eich cais, cysylltwch â Swyddog Grantiau Môn Actif, Mr Dave Barker: davebarker@ynysmon.llyw.cymru 01248 752 954 neu 07967 845 468 cyn cyflwyno.
Copïau papur
Os oes angen copi papur neu gopi dros e-bost o’r ffurflen gais arnoch, cysylltwch â Mr Dave Barker: davebarker@ynysmon.llyw.cymru 01248 752 954 neu 07967 845 468.
Cofiwch sicrhau eich bod hefyd yn cyflwyno'r dogfennau atodol sydd wedi eu rhestru o fewn y canllaw, gyda’ch cais. Ni fydd yn bosib prosesu ceisiadau anghyflawn.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.