Cyngor Sir Ynys Môn

Prosiect gofal plant trwy'r dydd ar Ynys Môn


Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Mehefin 2024.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae’r arolwg hwn ar gyfer rhieni sydd â phlant rhwng 0 a 12 oed.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi adeiladu pum lleoliad gofal plant newydd o fewn safleoedd ysgol o amgylch Ynys Môn er mwyn gallu darparu gofal plant drwy’r dydd ar gyfer rhieni sydd â phlant rhwng 2 a 12 oed.

Mae’r gwaith hwn wedi bod yn rhan o’r Rhaglen gyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar a ddechreuodd yn 2019, o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Rydym nawr yn edrych i ddatblygu'r prosiect i weld lle arall ar Ynys Môn allai elwa o ofal plant fel hyn.

Rydym yn dymuno clywed gennych. Mae eich barn yn bwysig i ni. Rydym yn dymuno gwybod pa ardaloedd fyddai'n elwa o leoliad gofal plant newydd.

Gofynnir i chi adael eich enw a’ch cyfeiriad e-bost os hoffech dderbyn diweddariadau am y prosiect hwn. Does dim rhaid i chi adael eich enw a’ch cyfeiriad e-bost; gallwch fynegi eich barn yn ddienw.

Ewch i holiadur ar lein

 
Mae un o’n datblygiadau diweddar yn edrych fel hyn:

caban