Cyngor Sir Ynys Môn

Ymgynghoriad: Gostwng oed mynediad Ysgol Corn Hir


Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Mehefin 2022

Ymgynghoriad gwreiddiol

Yn dilyn cyhoeddiad penderfyniad ar y 8 Mawrth 2022 (penderfyniad a ddirprwywyd gan y Pwyllgor Gwaith) awdurdodwyd swyddogion i gynnal ymgynghoriad statudol (yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018) ar ostwng yr oedran mynediad i 3 i 11 oed yn Ysgol Corn Hir o’r 1 Medi 2023.

Mae'r ymgynghoriad statudol yn digwydd o 6 Mai i 20 Mehefin 2022.

Byddai Cyngor Sir Ynys Môn yn hoffi i chi gyflwyno eich barn fel y gellir ei hystyried cyn gwneud penderfyniad i un ai barhau a’r cynnig hwn, i addasu’r cynnig, neu i wrthod y cynnig. 

Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, byddwn yn cyflwyno adroddiad ar yr adborth a dderbyniwyd.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.