Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn awyddus i gael barn trigolion ar faterion digidol megis cysylltedd i’r we, defnydd o offer digidol, arferion cyfathrebu a derbyn gwasanaethau.
Bydd eich barn yn helpu’r cyngor ffurfio strategaeth ddigidol am y blynyddoedd nesaf.
Dweud eich dweud
Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg hwn yw 28 Medi 2023.
Yn dilyn y cyfnod ymgysylltu, bydd eich sylwadau yn cael eu hystyried cyn fabwysiad arfaethedig y Strategaeth Ddigidol gan y Pwyllgor Gwaith yn ystod tymor yr hydref.
Ewch i arolwg ar-lein y strategaeth ddigidol
Copi papur
Mae fersiwn papur o'r arolwg hwn ar gael mewn llyfrgelloedd ar draws yr ynys.
Os hoffech gael yr arolwg hwn mewn fformat arall, e-bostiwch eindyfodol@ynysmon.llyw.cymru
Os oes gennych gwestiwn
Os oes gennych gwestiwn e-bostiwch eindyfodol@ynysmon.llyw.cymru